Gan weithio'n agos gyda'n partneriaid, rydym yn cynnig cefnogaeth, gofal a thriniaeth iechyd meddwl i oedolion 18-65 oed a phobl hŷn dros 65 oed o'n hysbytai, clinigau cymunedol ac weithiau yng nghartrefi cleifion.
Rydym hefyd yn darparu gwasanaethau camddefnyddio sylweddau rhanbarthol, ac rydym yn gyfrifol am wasanaethau iechyd meddwl fforensig ar gyfer de, canolbarth a gorllewin Cymru.
Darperir gwasanaethau iechyd meddwl plant a phobl ifanc (CAMHS) yn rhanbarthol gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf ar ran nifer o fyrddau iechyd de Cymru, gan gynnwys ein hunain.
Mae cymorth iechyd meddwl mewn perthynas â’r pandemig Covid-19, i oedolion a phlant, i’w weld isod, yn ogystal â threfniadau Covid-19 ar gyfer CAMHS.
Mae'r pob wasanaeth arall i'w gweld yn y bar llywio ar ochr chwith neu frig y dudalen hon.
Mae apwyntiadau clinig cleifion allanol CAMHS arferol wedi dod i ben ac yn lle hynny mae ein clinigwyr yn darparu ymgynghoriadau ffôn i gael cyngor, cefnogaeth therapiwtig a monitro meddyginiaeth. Mae apwyntiadau wyneb yn wyneb yn cael eu cynnig yn unigol yn ôl yr angen i reoli angen clinigol a risg.
Rydym yn gobeithio cyfyngu ar effaith ein gwasanaeth clinig wyneb yn wyneb llai a darparu cyngor a chefnogaeth uniongyrchol i blant / pobl ifanc a theuluoedd gartref gyda'n Llinell Pwynt Cyswllt Sengl/Cyfeirio Ffôn CAMHS gwell. Gwasanaeth mynediad agored yw hwn ar gyfer plant / pobl ifanc a theuluoedd (yn ogystal ag ar gyfer gweithwyr proffesiynol/asiantaethau partner), sy'n darparu cyngor ffôn, cefnogaeth a brysbennu atgyfeirio. Mae'r gwasanaeth hwn ar gael rhwng 9am a 5pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener. Cysylltwch â 01639 862744.
Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.