Mae gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol ar draws ein hardal bellach yn fwy integredig nag erioed.
Mae staff o'r bwrdd iechyd a chynghorau lleol - gan gynnwys gweithwyr cymdeithasol, nyrsys ardal a gweithwyr gofal cartref - yn gweithio'n agos gyda'i gilydd i helpu cleifion i aros yn iach ac yn ddiogel yn yr amgylchedd o'u dewis eu hunain cyhyd â phosibl.
Byddant yn gweithio'n agos gyda phob unigolyn i nodi'r hyn sy'n bwysig iddyn nhw a'r ffordd orau o nodi'r gefnogaeth i gyflawni eu canlyniadau dymunol.
Gall y timau nyrsio ardal ddarparu gofal cymhleth yn y cartref i'r rhai na allant gyrraedd eu meddygfa neu glinig. Gall cleifion a'u teuluoedd gael gafael arnynt drwy un pwynt cyswllt:
Ffon: 01792 343360
Gellir cael mynediad at bob tîm iechyd a gofal cymdeithasol arall trwy un cyswllt ffôn â'r Pwynt Mynediad Cyffredin.
Abertawe 01792 636519
Castell-nedd Port Talbot 01639 686802
Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.