Darperir gwasanaethau ffisiotherapi cyhyrysgerbydol ar y safleoedd canlynol o fewn Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe:
Gellir gwneud atgyfeiriadau ar gyfer gwasanaethau ffisiotherapi cleifion allanol trwy:
Ar ôl derbyn atgyfeiriad gan y Meddyg Teulu / Ymgynghorydd , gweithiwr gofal iechyd proffesiynol arall neu ffurflen hunangyfeirio, bydd yr adran ffisiotherapi yn cysylltu â chi dros y ffôn neu drwy'r post i drefnu apwyntiad.
Os yw'ch cyflwr yn ddifrifol, fe'ch gwelir o fewn 3 wythnos. Y cyfnod aros mwyaf (ar gyfer cyflyrau nad ydynt yn rhai aciwt) yw 14 wythnos, neu lai os oes gennym ganslo.
Yn yr achos hwn, efallai y byddwn yn eich ffonio ar fyr rybudd, felly mae'n hanfodol cynnwys rhif cyswllt cywir ar eich ffurflen atgyfeirio.
Ond a wyddech chi nad oes rhaid i chi weld meddyg i gael eich cyfeirio at ffisiotherapi?
Gallwch ddod o hyd i fwy o wybodaeth am glinig asesu cerdded i mewn, hunangyfeirio a PhysioDirect ar ein tudalen Ffisiotherapi .
Yn y cyfamser, gallwch ddod o hyd i awgrymiadau defnyddiol ar ein tudalen Hunangymorth, awgrymiadau a chyngor.
Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.