Neidio i'r prif gynnwy

Sgrinio clyw arferol i blant

Yng Nghymru, cynigir dwy sgrin glyw arferol i fabanod a phlant. Cynigir y cyntaf pan fyddant yn newydd-anedig a chynigir yr ail sgrin pan fyddant yn cyrraedd oedran ysgol gorfodol (y flwyddyn ysgol y maent yn troi'n bum mlwydd oed).

PWYSIG - os oes gennych unrhyw bryderon ynghylch clyw eich plentyn, gofynnwch am atgyfeiriad gan eich Ymwelydd Iechyd neu Feddyg Teulu ar gyfer asesiad clyw.

Sgrinio clyw babanod newydd-anedig - Bydd sgriniwr clyw newydd-anedig yn cynnig sgrinio clyw pob babi newydd-anedig. Gellir gwneud hyn ar y ward neu efallai yr anfonir apwyntiad atoch i fynychu clinig iechyd cymunedol. Bydd y sgrin yn cynnwys rhoi blaen meddal i bob un o glustiau'r babi. Mae'r sgrin yn helpu i ddweud wrth y sgriniwr pa fabanod y gallai fod angen prawf clyw pellach arnynt ai peidio. Nid yw'r sgrin yn canfod yr holl golledion clyw a gall rhai colledion clyw ddatblygu gydag amser.

I gael rhagor o wybodaeth am Sgrinio Clyw Babanod yng Nghymru, dilynwch y ddolen hon i wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Sgrinio clyw mynediad ysgol - Bydd pob plentyn oed derbyn yn cael cynnig sgrin clyw yn yr ysgol. Bydd sgrinwyr clyw'r ysgol yn trefnu dyddiad gydag ysgol eich plentyn ac anfonir ffurflen ganiatâd optio allan atoch cyn yr ymweliad.

O fis Medi 2022, os yw eich plentyn o oedran derbyn ond yn cael ei addysgu gartref, bydd yr adran Awdioleg yn cysylltu â chi i drefnu sgrin clyw eich plentyn.

I gael rhagor o wybodaeth, dilynwch y ddolen hon i’r daflen Sgrinio Clyw Derbyn i Ysgolion ar wefan Llywodraeth Cymru.

 

Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.