Neidio i'r prif gynnwy

Gweithgor Gwasanaeth Clyw Plant (CHSWG)

Mae'r Gweithgor Gwasanaeth Clyw Plant (Children's Hearing Service Working Group - CHSWG) yn grŵp amlddisgyblaethol a sefydlwyd i wella'r gwasanaethau i blant a'u teuluoedd ag anawsterau clyw. Mae'r Grŵp yn cynnwys Cynrychiolwyr Rhieni yn ogystal â gweithwyr proffesiynol Gofal Iechyd megis Meddygon Plant, Therapyddion Iaith a Lleferydd, Athrawon â Nam ar y Clyw a sefydliadau gwirfoddol fel Cynrychiolwyr Cymdeithas Genedlaethol Plant Byddar (National Deaf Children's Society - NDCS). Os oes gennych ddiddordeb mewn bod yn gynrychiolydd rhaid i'ch plentyn gael diagnosis o golled clyw ac o dan 18 oed. Cysylltwch â'ch Awdiolegydd neu Athro Plant Byddar.

Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.