Neidio i'r prif gynnwy

Ar ôl apwyntiad eich plentyn

Yn dibynnu ar ganlyniadau'r prawf clyw, efallai y bydd eich plentyn yn cael ei ryddhau (nid oes angen unrhyw apwyntiadau pellach). Os byddwch yn datblygu pryderon clyw yn y dyfodol, mae angen atgyfeiriad newydd gan eich meddyg teulu/ymwelydd iechyd.

Os oes colled clyw yn bresennol, neu os nodir bod eich plentyn mewn perygl o ddatblygu colled clyw yn y dyfodol, mae'n debygol y byddwch yn cael eich adolygu mewn awdioleg ar ôl cyfnod o amser (ee 3 mis). Os ydych chi'n pryderu bod clyw eich plentyn wedi gwaethygu'n sylweddol yn y cyfamser, cysylltwch ag awdioleg yn uniongyrchol am apwyntiad cynharach.

Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.