Bydd y wybodaeth hon yn eich helpu i ddarganfod sut y cewch eich galw am frechu os ydych yn hynod fregus yn glinigol, er enghraifft cawsoch lythyr gan Lywodraeth Cymru yn eich cynghori i gysgodi.
Yn Abertawe a Castell-nedd Port Talbot bydd meddygon teulu yn cyflwyno mwyafrif helaeth y brechiadau i'r rhai a oedd yn cysgodi / yn hynod fregus yn glinigol (CEV). Bydd nifer llai o'r grŵp hwn yn derbyn eu dosau cyntaf yn un o'n canolfannau brechu torfol, neu trwy drefniant arbennig.
Bydd ble rydych chi'n mynd yn dibynnu'n bennaf ar eich oedran, neu ba feddygfa rydych chi'n perthyn iddo. Bydd pob meddygfa yn Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot - ac eithrio meddygfeydd Ffordd Dyfed, Castell-nedd a Phrifysgol Abertawe - yn brechu pobl ar eu rhestrau yn y grŵp cysgodi / CEV. Fodd bynnag, mae'r trefniadau ychydig yn wahanol os ydych chi'n 75-79 oed.
Sylwch:
Er mwyn brechu cymaint o bobl cyn gynted â phosibl mae gennym wahanol ffrydiau brechu yn rhedeg law yn llaw. O ganlyniad, efallai bod gennych berthnasau neu ffrindiau sydd ddim yn cysgodi sy'n cael eu galw o'ch blaen. Sicrhewch y cewch eich galw yn fuan iawn. Ein targed yw brechu pawb sy'n cysgodi / CEV ar draws Abertawe a Castell-nedd Port Talbot erbyn canol mis Chwefror.
Hefyd, mae yna bobl eraill â phroblemau iechyd sylfaenol sy'n cael cynnig brechlyn ffliw bob blwyddyn fel rheol. Ni fydd y grŵp hwn wedi derbyn llythyr gan Lywodraeth Cymru i nodi eu bod yn cysgodi. Byddant yn derbyn eu brechiadau yn y gwanwyn, ar ôl i'r bobl sy'n agored i niwed oherwydd eu hoedran, neu oherwydd eu bod yn cysgodi / CEV, gael eu brechu.
Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.