Neidio i'r prif gynnwy

Ffisiotherapi

Sut mae cael gafael ar ffisiotherapi cyhyrysgerbydol cleifion?
Atgyfeiriadau ar gyfer Ffisiotherapi Cleifion Allanol

Gellir atgyfeirio am wasanaethau ffisiotherapi cleifion allanol trwy:

  • Hunan-atgyfeirio - ffôn Gwasanaeth atgyfeirio uniongyrchol ffisio neu ffurflen hunan-atgyfeirio papur.
  • Atgyfeiriad uniongyrchol gan Feddygfa Feddygon Teulu, Ymgynghorwyr Ysbyty neu weithwyr proffesiynol gofal iechyd arall.

Efallai y byddwn yn eich ffonio ar fyr rybudd, felly mae'n hanfodol cynnwys rhif cyswllt cywir ar eich ffurflen atgyfeirio.

Hunan-atgyfeirio dros y Ffôn : Ffonio Physio Direct a siarad â ffisiotherapydd cymwys. Sylwch, mae'r rhifau hyn ar gyfer Physio Direct yn unig. Os oes gennych unrhyw ymholiadau ynglŷn â'ch apwyntiadau ffisiotherapi.

Dilynwch y ddolen hon i ddod o hyd i rifau cyswllt ar gyfer tudalen adran ffisiotherapi pob ysbyty.

Abertawe - 01792 487453, dydd Llun i ddydd Gwener 9.00am i 13.00pm (ag eithrio gwyliau banc)

Castell-nedd Port Talbot - 01639 683167 neu 683168, o ddydd Llun i ddydd Gwener 9.00am i 13.00pm (ag eithrio gwyliau banc)

Hunan-atgyfeirio trwy'r Ffurflen:

Gallwch chi atgyfeirio'ch hun am ffisio trwy lenwi un o'r ffurflenni isod:

Ewch yma i weld y ffurflen hunan-atgyfeirio ffisiotherapi.

Ar ôl i chi lenwi'r ffurflen, gellir ei bostio, i'r adran ffisiotherapi naill ai yn Ysbytai Castell-nedd Port Talbot, Singleton neu Treforys, lle byddwch wedyn yn cael eich rhoi ar y rhestr aros.

Clinig Mynediad at Ffisiotherapi (PAC - Physio Access Clinic)

Dilynwch y ddolen hon i gael rhagor o wybodaeth am ein Clinig Mynediad at Ffisiotherapi (PAC). Sylwer: Nid yw'r dudalen hon ar gael yn Gymraeg ar hyn o bryd.

Ffisiotherapi Cleifion Rhifau Ffôn

Ysbyty Treforys 01792 703124/703126

Ysbyty Singleton 01792 285383/285593

Ysbyty Castell-nedd Port Talbot 01639 862043

Ewch i'r dudalen hon i gael mwy o wybodaeth am wasanaethau Ffisiotherapi yn ein hysbytai.

Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.