Neidio i'r prif gynnwy

Pwy all ei gael?

Bydd pob plentyn dwy a thair oed ar Awst 31, 2019, i ddisgyblion ym mlwyddyn chwech yr ysgol gynradd yn cael cynnig brechiad chwistrell trwynol am ddim o'r enw Fluenz Tetra naill ai gan eu meddygfa neu wasanaeth nyrsio ysgol.

Fodd bynnag, gellir cynnig pigiad brechlyn ffliw i rai plant â phroblemau iechyd.

Ymhlith y grwpiau eraill sy'n gymwys i gael y brechiad am ddim mae:

  • pobl 65 oed a hŷn (neu 55 oed i fyny yn y carchar)
  • y rhai rhwng chwe mis a llai na 65 oed, sydd â chyflwr meddygol difrifol (gan gynnwys asthma, clefyd y galon, diabetes, canser)
  • oedolion sy'n ordew (BMI o 40 neu'n uwch)
  • menywod beichiog (ar unrhyw gam o'r beichiogrwydd)
  • pobl sy'n byw mewn cartrefi gofal neu gyfleusterau gofal arhosiad hir eraill
  • gofalwyr (di-dâl, gwirfoddol neu'r rheini sy'n gweithio mewn cartrefi gofal preswyl)
  • gweithwyr gofal iechyd

Mae llawer o fferyllfeydd ac archfarchnadoedd hefyd yn cynnig brechiadau ffliw i'r rhai nad ydyn nhw'n gymwys i gael eu himiwneiddio am ddim.

Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.