Uned 30D East Mall, Port Talbot, SA13 1PB.
Bydd ein canolfan brechu lleol Aberafan nawr ar agor ar ddydd Llun, dydd Mawrth, dydd Iau a dydd Gwener - yn cynnig brechiadau atgyfnerthu'r Gwanwyn a MMR.
Ychydig oddi ar Gyffordd 41 yr M4 ym Mhort Talbot.
Mae'r llwybrau trafnidiaeth gyhoeddus canlynol hefyd yn mynd heibio i'r ganolfan, Bws: X1, Trên: Gorsaf Port Talbot.
Sut i ddod o hyd i ni
Bws a thacsi
Os byddwch yn cyrraedd ar fws neu dacsi ewch i mewn trwy fynedfa South Mall, sef y fynedfa sydd agosaf at yr orsaf fysiau a'r safle tacsis.
Os ydych yn dod allan o’r orsaf fysiau bydd angen i chi droi i’r dde tuag at y fynedfa hon. Mae’n syth ymlaen os ydych chi wedi cael eich gollwng yn y safle tacsis.
Unwaith y byddwch chi drwy'r drysau i'r ganolfan siopa, ewch ar hyd South Mall a throwch i'r dde yn siop ddillad PEP&CO.
Fe welwch arwydd ar gyfer B&M Bargains o'ch blaen. Parhewch ar hyd y llwybr hwn, sef East Mall, gan basio B&M ar y dde i chi. Ein canolfan frechu yw'r uned nesaf ar y dde rhwng B&M a drysau mynediad pont yr afon.
Car
Os ydych chi’n dod mewn car mae’n well peidio â pharcio ym maes parcio aml-lawr y ganolfan siopa gan fod hwn yr ochr arall i’n canolfan frechu.
Rydym yn argymell parcio ar ochr Tesco i’r afon a defnyddio pont yr afon gyferbyn â Swyddfa’r Post a Specsavers i gyrraedd y ganolfan.
Mae ein LVC ar eich chwith wrth i chi ddod drwy'r drysau i mewn i'r ganolfan.
O goffi Costa
Os cewch eich hun yn siop goffi Costa, ewch i'r chwith o'r caffi sydd i gyfeiriad Wilko, a throwch i'r chwith lle daw Wilko i ben.
Fe welwch B&M ar y dde i chi. Daliwch ati a'n canolfan frechu yw'r uned nesaf ar y dde heibio B&M.
Millers Drive, gyferbyn ag Aldi, Gorseinon, Abertawe, SA4 4QN.
Bydd ein canolfan brechu lleol Gorseinon nawr ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener, 9:00yb – 5:00yh - yn cynnig brechiadau atgyfnerthu'r Gwanwyn a MMR.
Cyfarwyddiadau
O'r M4 yn mynd i Gaerfyrddin. Gadewch yr M4 ar Gyffordd 47 (arwydd Abertawe W) yna ar y gylchfan, cymerwch y 3ydd allanfa i'r A48 (arwydd Gorseinon, Penllergaer).
Parhewch ymlaen ar yr A48, gan ddod i mewn i Benllergaer, ar y gylchfan cymerwch yr 2il allanfa i Heol Gorseinon - A4240 (arwydd Gorseinon)
Wrth y gylchfan fach, ewch ymlaen i Gorseinon Road - A4240.
Ar y gylchfan nesaf cymerwch yr ail droad i Heol Gorseinon - A4240 (arwydd Gorseinon) a pharhewch ymlaen nes i chi gyrraedd y goleuadau traffig ger tafarn Bryngwyn.
Trowch i'r chwith wrth y goleuadau traffig, gan fynd yn syth ymlaen drwy'r gylchfan a throwch i'r dde i faes parcio'r Ganolfan.
Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.