Neidio i'r prif gynnwy

Beth yw brechlynnau a sut maen nhw'n gweithio?

Sut mae brechlynnau'n gweithio?

Yn syml, mae brechlynnau’n rhoi’r cychwyn cyntaf i’n cyrff wrth frwydro yn erbyn salwch.

Os ydym yn dod i gysylltiad naturiol â bacteria neu firws, a elwir hefyd yn bathogenau, bydd ein system imiwnedd yn cynhyrchu gwrthgyrff i ymosod ar y bacteria neu'r firws penodol hwnnw a'u dinistrio.

Bydd y system imiwnedd hefyd yn creu celloedd cof sy'n cynhyrchu gwrthgyrff, a fydd yn cofio'r pathogen ac yn gallu ymateb ar unwaith os byddwn yn dod i gysylltiad ag ef eto.

Pan fyddwn yn dod i gysylltiad â bacteria neu firws am y tro cyntaf mae'n cymryd amser i'n systemau imiwnedd ymateb, gan ein rhoi mewn perygl o fynd yn sâl.

Mae brechlynnau'n cynnwys rhannau o antigen sydd wedi'u gwanhau neu'n anweithredol, sef y rhan o facteria neu firws (pathogen) sy'n annog ein system imiwnedd i wneud gwrthgyrff.

Mae brechlynnau mwy newydd yn cynnwys rhan fach o gyfarwyddiadau genetig neu lasbrint yr antigen yn lle'r antigen ei hun.

Yn y ddau achos, ni fydd y brechlynnau yn rhoi'r clefyd i ni. Ond byddant yn annog ein system imiwnedd i ymateb fel pe baem wedi dal y clefyd go iawn.

Mae unrhyw sgîl-effeithiau dros dro o frechlyn, fel twymyn neu ddoluriau a phoenau, yn ganlyniad i ymateb y system imiwnedd ac maent fel arfer yn fyrhoedlog.

Mae cael brechlyn yn golygu y bydd gennym wrthgyrff, sydd fel milwyr y system imiwnedd, yn barod ac yn aros i ymladd y bacteria neu firws penodol hwnnw petaem yn dod i gysylltiad ag ef yn naturiol yn y dyfodol.

 

Pam dylen ni gael brechlynnau?

Mae'n fwy diogel cael brechlyn na dal salwch ac aros i'n system imiwnedd frwydro yn ei erbyn.

Mae'r rhan fwyaf o frechlynnau wedi bod yn cael eu defnyddio ers degawdau, gyda miliynau o bobl ledled y byd yn eu cael bob blwyddyn.

Fel pob meddyginiaeth, rhaid i frechlynnau fynd trwy brofion helaeth a thrylwyr, gan gynnwys ar wirfoddolwyr, i sicrhau eu bod yn ddiogel cyn y gellir eu hychwanegu at raglen frechu.

Nid oes unrhyw frechlynnau 100% yn effeithiol ac mae effeithiolrwydd yn amrywio rhwng brechlynnau.

Gall rhai brechlynnau ein hatal rhag mynd yn sâl yn y lle cyntaf. Ar ôl cael rhai eraill efallai y byddwn yn dal i ddal y clefyd, ond mae'r salwch yn debygol o fod yn fwynach ac na fydd yn para mor hir.

Pan fydd llawer o bobl yn cael eu brechu, mae salwch yn ei chael hi'n anodd cylchredeg. Mae'r imiwnedd buches hwn yn helpu i amddiffyn y rhai na allant gael brechlynnau, fel babanod ifanc iawn, neu'r rhai â chyflyrau iechyd sylfaenol neu alergeddau difrifol.

Mae brechlynnau yn un o'r pethau pwysicaf y gallwn ei wneud i amddiffyn ein hiechyd ein hunain ac iechyd ein teuluoedd a'n cymunedau.

Yn ôl Sefydliad Iechyd y Byd, mae brechu ar hyn o bryd yn atal rhwng tair a hanner i bum miliwn o farwolaethau ledled y byd bob blwyddyn o afiechydon fel difftheria, tetanws, y pas (pertwsis), ffliw a'r frech goch.

Llwyddodd rhaglen frechu fyd-eang, ynghyd â mesurau eraill megis rhaglenni atal, i ddileu’r frech wen farwol ym 1980.

Mae polio, sy'n cael ei achosi gan firws ac sy'n achosi parlys a marwolaeth yn bennaf mewn plant, wedi'i ddileu yn y rhan fwyaf o'r byd diolch i frechu. Mae ymdrechion yn parhau i'w ddileu yn gyfan gwbl.

 

Gwybodaeth bellach

Ewch i’r adran Imiwneiddio a Brechlynnau ar wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru i gael gwybodaeth fanwl am frechiadau yng Nghymru.

Ewch i wefan Sefydliad Iechyd y Byd. (Mae'r ddolen hon yn allanol ac felly nid oes fersiwn Gymraeg ar gael)

Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.