Neidio i'r prif gynnwy

Brechiadau arferol

Diweddarwyd y dudalen: 21.12.22

Rhagymadrodd

Rhoddir y rhan fwyaf o frechlynnau fel rhan o'r rhaglen frechu arferol yng Nghymru.

Mae angen rhoi rhai mwy nag unwaith i'n helpu i ddatblygu imiwnedd ac amddiffyniad parhaol rhag afiechyd.

Bydd babanod, plant ac oedolion yn cael eu galw'n awtomatig i gael eu brechu pan ddisgwylir iddynt gael eu brechu. Bydd rhai brechiadau yn cael eu rhoi yn yr ysgol. Mae'n bwysig bod yr holl frechiadau'n cael eu rhoi ar amser a bod y nifer cywir o ddosau'n cael eu derbyn.

Newydd i Gymru? Os ydych chi a’ch plentyn/plant wedi symud i Gymru o wlad arall, gwnewch yn siŵr bod eich plentyn/plant yn cael eu brechu yn unol ag amserlen Cymru. Gall amseriadau imiwneiddiadau plentyndod amrywio rhwng gwledydd ac efallai y bydd angen dos ychwanegol o frechlynnau penodol ar eich plentyn/plant i’w cadw’n unol â’n hamserlen a sicrhau eu bod yn cael yr amddiffyniad mwyaf posibl. Gwiriwch gyda'ch ymwelydd iechyd neu'ch meddyg teulu.

Gwybodaeth ar gyfer pobl sy'n cyrraedd o Wcráin Ewch i'r dudalen hon ar wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru i gael taflenni brechu a gwybodaeth i'r rhai sy'n cyrraedd o'r Wcráin.

Brechiadau arferol

Polio – Rhieni a gofalwyr, gwnewch yn siŵr bod eich plant yn derbyn eu frechiadau arferol, gan fod y brechlyn polio yn cael ei gynnig fel rhan o'r amserlen arferol mewn pum dos ar wahân. Daw'r alwad hon ar ôl canfod poliofeirws mewn dŵr gwastraff yn Llundain. Ewch i dudalen we hon Iechyd Cyhoeddus Cymru am ragor o wybodaeth, gan gynnwys cwestiynau cyffredin.

Babanod

Bydd rhieni a gofalwyr yn cael eu gwahodd gan eu meddygfa neu ymwelydd iechyd i ddod â’u babi i gael ei frechu bedair gwaith yn ystod blwyddyn gyntaf eu bywydau.

Rhoddir y brechiadau yn wyth wythnos, 12 wythnos, 16 wythnos a 12-13 mis oed. Bydd babanod yn cael eu hamddiffyn rhag nifer o afiechydon plentyndod difrifol gan gynnwys difftheria, tetanws, pertwsis (y pas), y frech goch, clwy'r pennau, rwbela, polio a bacteria meningococaidd grŵp B ac C a all achosi llid yr ymennydd.

Bydd plant rhwng chwe mis a dwy oed sydd â chyflyrau iechyd sylfaenol penodol yn cael cynnig brechlyn ffliw chwistrelladwy yn yr hydref/gaeaf.

 

Cyn-ysgol

Mae plant dwy a thair oed, ynghyd â phlant oed ysgol yng Nghymru hyd at ac yn cynnwys blwyddyn 11, yn cael cynnig y brechlyn ffliw chwistrell trwyn bob hydref/gaeaf. Bydd plant dwy a thair oed yn cael eu gwahodd gan eu meddygfa neu ymwelydd iechyd.

Ewch i'n tudalen frechiadau ysgol i ddarganfod mwy am y brechlyn ffliw chwistrell trwyn i blant.

Bydd plant tair blwydd a phedwar mis oed yn cael eu gwahodd gan eu meddygfa neu ymwelydd iechyd i gael brechlyn atgyfnerthu cyn-ysgol a roddir i fabanod.

 

Plant oed ysgol

Mae pob plentyn ysgol yng Nghymru hyd at ac yn cynnwys blwyddyn 11 bellach yn cael cynnig y brechlyn ffliw chwistrell trwyn yn yr hydref/gaeaf.

Ewch i'n tudalen frechiadau ysgol i ddarganfod mwy am y ffliw a'r brechlyn ffliw chwistrell trwyn i blant.

Blynyddoedd 8 a 9 (12-14 oed)

Rhoddir dau ddos o'r brechlyn HPV gyda bwlch rhyngddynt. Mae'r brechlyn hwn yn amddiffyn rhag canser ceg y groth a rhai mathau eraill o ganser, fel canserau'r pen a'r gwddf.

Blwyddyn 9 (13 a 14 oed)

Rhoddir brechlyn tetanws, difftheria a polio a'r brechlyn yn erbyn grwpiau meningococol A, C, W ac Y (MenACWY), a all achosi llid yr ymennydd.

 

50 oed a hŷn

Yn gymwys ar gyfer y brechlyn ffliw blynyddol

Ewch i'n tudalen brechiadau tymhorol i ddarganfod mwy am y brechlyn ffliw ar gyfer pobl 50 oed a hŷn.

 

65 oed a hŷn

Yn gymwys ar gyfer y brechlyn niwmococol, a elwir hefyd yn frechlyn niwmonia. Mae'n amddiffyn rhag heintiau niwmococol, a all achosi niwmonia, gwenwyn gwaed (sepsis) a llid yr ymennydd.

 

70-79 oed

Yn gymwys ar gyfer y brechlyn eryr. Mae'r eryr yn glefyd croen poenus.

 

Gwybodaeth bellach

Ewch i'r dudalen hon ar wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru i weld yr amserlen frechu arferol lawn ar gyfer Cymru. Mae ganddo hefyd restr AZ o frechlynnau a gwybodaeth am bob un.

 

 

 

Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.