Ers mis Medi 2024, mae menywod beichiog, rhwng 28 a 36 wythnos, a phobl rhwng 75 a 79 oed wedi cael cynnig brechlyn RSV i helpu i amddiffyn y rhai mwyaf agored i niwed rhag y firws syncytial anadlol (RSV), ar argymhelliad y JCVI (Cyd-bwyllgor ar Frechu ac Imiwneiddio). O 1af Ebrill 2026, bydd y brechlyn hwn yn cael ei gynnig i unigolion 80 oed a hŷn a hefyd i breswylwyr cartrefi gofal ar gyfer oedolion hŷn.
Mae RSV (firws syncytial anadlol) yn firws gaeaf cyffredin, y mae bron pob plentyn wedi'i gael erbyn iddynt fod yn ddwy oed. Mae'n gyffredin i blant hŷn ac oedolion gael y firws eto.
I'r rhan fwyaf o bobl, mae RSV yn achosi salwch ysgafn, fel peswch neu annwyd. Fodd bynnag, mae babanod o dan flwydd oed ac oedolion hŷn mewn perygl o fynd yn sâl iawn. Weithiau, mae angen i bobl sy'n mynd yn sâl o haint RSV fynd i'r ysbyty. Gall RSV fod yn fwy peryglus i rai pobl, yn enwedig y rhai â chyflyrau iechyd penodol. Gall hyd yn oed achosi marwolaeth.
Dangoswyd bod y brechlyn yn effeithiol iawn wrth amddiffyn oedolion hŷn rhag cael eu derbyn i'r ysbyty oherwydd y firws RSV. Mae canfyddiadau astudiaeth yn Lloegr yn dangos gostyngiad sylweddol yn nifer y derbyniadau i'r ysbyty oherwydd y firws RSV mewn oedolion 75 i 79 oed yn ystod tymor cyntaf y firws RSV yn dilyn gweithredu'r rhaglen.
Am ragor o wybodaeth am y brechlyn RSV, dilynwch y ddolen hon i wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.