Er mwyn cynnig yr amddiffyniad gorau i'ch babi, dylech gael eich apwyntiad brechlyn rhwng 28 a 36 wythnos o feichiogrwydd (lle mae'r brechlyn yn fwy effeithiol).
Gallwch gysylltu â'ch bydwraig neu'ch meddyg teulu am yr apwyntiad hwn. Os nad yw eich meddygfa yn cynnig y brechlyn RSV, gweler gwybodaeth y clinig isod.
Os byddwch yn methu eich brechlyn, gallwch ei gael hyd nes y bydd eich babi wedi'i eni. Fodd bynnag, os byddwch yn ei gael yn ddiweddarach yn ystod beichiogrwydd efallai na fydd mor effeithiol.
Mae astudiaethau wedi dangos bod y brechlyn RSV yn ddiogel iawn i chi a'ch babi. Nid yw’r brechlyn RSV yn frechlyn byw, felly ni all achosi RSV ynoch chi na’ch babi. Dyma'r ffordd fwyaf diogel a mwyaf effeithiol o helpu i amddiffyn eich babi heb ei eni rhag RSV.
Byddwn yn brechu yn y clinigau RSV canlynol:
Ysbyty Castell-nedd Port Talbot - Canolfan Geni. Dydd Mawrth a Dydd Iau - 9:30yb - 12:30yp a 1:00yp - 4:30yp.
Ysbyty Singleton - Clinig Cynenedigol. Dydd Llun, Dydd Mawrth a Dydd Iau - 9:30yb - 12:30yp a 1:30yp - 4:30yp.
Dim ond galw heibio yw'r clinigau hyn - nid oes angen apwyntiad.
Mae RSV (feirws syncytaidd anadlol) yn achos cyffredin o heintiau llwybr anadlol. I'r rhan fwyaf o oedolion a phlant, mae haint RSV yn achosi salwch ysgafn, fel peswch neu annwyd, sydd fel arfer yn gwella ar ei ben ei hun. Fodd bynnag, i rai, yn enwedig babanod o dan flwydd oed ac oedolion hŷn, gall RSV fod yn ddifrifol iawn a gall achosi bronciolitis a niwmonia. Mae gan o leiaf hanner yr holl blant RSV yn eu blwyddyn gyntaf o fywyd a bydd bron pob un wedi ei gael erbyn iddynt fod yn ddwy oed.
Gallwch helpu i amddiffyn eich babi rhag RSV o’i enedigaeth trwy gael y brechiad RSV tra byddwch yn feichiog.
Isod mae fideo gan Iechyd Cyhoeddus Cymru yn egluro'r gwahanol frechiadau yn ystod beichiogrwydd.
Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.