Neidio i'r prif gynnwy

Brechlyn RSV i oedolion hŷn

Llun o ddyn hen, logo ICC a logo

Mae'r rhaglen frechu yn erbyn RSV yn ehangu unwaith eto. O 1af Medi 2026, bydd pobl rhwng 65 a 74 oed sydd ag un o'r cyflyrau iechyd a restrir isod yn gymwys i dderbyn y brechlyn RSV:

  • asthma nad yw’n cael ei reoli'n dda – asthma sy'n achosi symptomau’n aml
  • clefyd rhwystrol cronig yr ysgyfaint (COPD) – grŵp o gyflyrau'r ysgyfaint sy'n ei gwneud hi'n anodd anadlu
  • bronciectasis – cyflwr yr ysgyfaint lle mae'r llwybrau anadlu wedi'u difrodi ac yn cynhyrchu llawer o fwcws
  • ffibrosis systig – cyflwr genetig sy'n achosi mwcws trwchus yn yr ysgyfaint
  • ffibrosis rhyngstiol yr ysgyfaint – creithio ar yr ysgyfaint
  • niwmoconiosis – clefyd yr ysgyfaint a achosir gan anadlu mathau penodol o lwch
  • dysplasia broncho-pwlmonaidd – cyflwr hirdymor ar yr ysgyfaint sy’n dechrau mewn rhai babanod
  • system imiwnedd wan oherwydd salwch neu driniaeth feddygol

Mae hyn yn ychwanegol at oedolion 75 oed a hŷn, a phob preswylydd mewn cartrefi gofal i oedolion hŷn, sy'n parhau i fod yn gymwys os nad ydynt wedi cael y brechlyn.


Mae rhaglen frechu RSV yn ehangu. O 1af Ebrill 2026, bydd pobl 80 oed a throsodd, a phob preswylydd mewn cartrefi gofal i oedolion hŷn yn gymwys i dderbyn y brechlyn. Mae hyn yn ychwanegol at oedolion 75 oed a throsodd sy'n dal yn gymwys ar hyn o bryd os nad ydynt wedi derbyn y brechlyn.


Mae firws syncytaidd anadlol (RSV) yn achos cyffredin o heintiau'r llwybr anadlol. Mae haint RSV yn fwy cyffredin mewn plant ond mae'n fwyaf difrifol i fabanod bach ac oedolion hŷn. Mae’r rhan fwyaf o bobl wedi cael RSV fel plentyn, ond efallai na fydd haint yn y gorffennol yn eich atal rhag cael RSV eto.

I'r rhan fwyaf o bobl, mae RSV yn achosi salwch ysgafn, fel peswch neu annwyd, ac fel arfer mae'n gwella ar ei ben ei hun. Fodd bynnag, mae nifer fach o oedolion hŷn mewn perygl o fynd yn sâl iawn, yn enwedig os oes ganddynt broblemau iechyd eraill, megis clefyd y galon neu'r ysgyfaint neu system imiwnedd wan.

Bob blwyddyn, mae angen gofal ysbyty ar hyd at 1000 o bobl dros 75 oed oherwydd RSV, a gall rhai o'r bobl hyn farw.

Gall heintiau RSV ddigwydd trwy gydol y flwyddyn, ond mae achosion yn codi yn yr hydref a'r gaeaf.

Gallwch helpu i amddiffyn eich hun rhag salwch difrifol o RSV drwy gael y brechiad RSV pan gaiff ei gynnig i chi.

Cymhwystra ar gyfer y brechlyn

Am y brechlyn

Diogelwch ac effeithiolrwydd

 

Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.