Neidio i'r prif gynnwy

Brechiadau yn Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot

Yn yr adran hon fe welwch wybodaeth am gael brechiadau ar gyfer Covid, ffliw, HPV, MMR a mwy yn Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot.

Ym Mae Abertawe, nod y Tîm Imiwneiddio yw sicrhau ein bod yn darparu gwasanaeth teg i'r boblogaeth gyfan.

Mae ecwiti brechlyn yn un o egwyddorion craidd Fframwaith Imiwneiddio Cenedlaethol Cymru (2022) ac rydym yn blaenoriaethu ein rhaglenni i sicrhau y dylai pobl ledled BIP Bae Abertawe gael mynediad teg a chyfleoedd i drafod a derbyn pob brechiad.

Mae'r Strategaeth Ecwiti Brechlyn yn cyflwyno'r weledigaeth, yr amcanion a'r blaenoriaethau rydym yn anelu at gefnogi ein cymunedau, cynllunio a darparu cynnig o gymorth wedi'i deilwra ychwanegol. Bydd hyn yn sicrhau bod gan bawb sy'n gymwys y wybodaeth berthnasol a ffeithiol i wneud dewis gwybodus, gan sicrhau eu bod yn cael eu hamddiffyn rhag clefydau y gellir eu hatal rhag brechlyn trwy frechiad amserol.

I ddarllen Strategaeth Ecwiti Brechlyn Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe, dilynwch y ddolen hon i'r ddogfen word 'Cynllun Strategol Ecwiti Brechlyn Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe 2024'.

Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.