Neidio i'r prif gynnwy

Am Treforys

Treforys yw un o ysbytai mwyaf Cymru.

Dyma’r ysbyty trydyddol acíwt rhanbarthol ar gyfer De-orllewin Cymru, sy’n cynnig amrywiaeth o wasanaethau arbenigol, gan gynnwys trawma ac orthopedeg, meddygaeth arennol, niwroleg, llawfeddygaeth y geg a’r wyneb ac mae’n cynnal y gwasanaeth gwefusau a thaflod hollt rhanbarthol i blant ac oedolion.

Mae’n cynnig un o ddwy ganolfan gardiaidd yng Nghymru ac mae’n gartref i Ganolfan Llosgiadau a Llawfeddygaeth Blastig Cymru, a hefyd y gwasanaeth bariatrig (gwasanaeth gordewdra) i Gymru. Mae ganddi uned gofal dwys fodern.

Mae gan Dreforys un o'r adrannau brys (A&E) prysuraf yng Nghymru. Mae Bae Abertawe yn gartref i Wasanaeth Adalw a Throsglwyddo Meddygol Brys Cymru (EMRTS), a elwir hefyd yn Feddygon Hedfan, ac mae'r gwasanaeth yn gweithio'n agos ag Ysbyty Treforys.

Mae hefyd yn darparu gwelyau meddygol acíwt ac ystod eang o wasanaethau llawfeddygol ac wrolegol, wardiau plant ac uned dibyniaeth fawr i blant. Mae ganddo ystod lawn o wasanaethau diagnostig a therapiwtig o ansawdd uchel, a gwasanaethau cleifion allanol.

Dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf mae Treforys wedi bod yn cael ei ailddatblygu gwerth £100m a mwy gydag adeiladau newydd yn cymryd lle’r ystâd cyn y rhyfel. Yn fwyaf diweddar mae wedi cael buddsoddiad mawr gydag adeiladu'r Uned Feddygol Acíwt newydd.

Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.