Neidio i'r prif gynnwy

Pwysau iach - cefnogaeth a chyngor

Os ydych chi dros bwysau, gall colli pwysau helpu i leihau'r straen ar eich calon a'ch ysgyfaint. Gall colli pwysau hefyd eich helpu i ostwng eich pwysedd gwaed, gwella lefel eich siwgr gwaed, lleihau poen yn eich cymalau, lleihau eich risg o glotiau gwaed ar ôl llawdriniaeth, lleihau eich risg o heintiau clwyfau ar ôl llawdriniaeth, eich galluogi i wneud ymarfer corff yn haws a lleihau y risg sy'n gysylltiedig â chael anesthetig.

Nid yw'r Bwrdd Iechyd yn gyfrifol am gynnwys gwefannau trydydd parti, a allai fod yn Saesneg yn unig.

Pwysau Iach Byw'n Iach

Mae taith rheoli pwysau pawb yn wahanol ac felly hefyd yr atebion ar gyfer cyflawni a chynnal pwysau iach. Mae Pwysau Iach Byw'n Iach yn gynnig unigryw wedi'i deilwra i'ch anghenion.

Wedi’i greu gan GIG Cymru, gallwch gwblhau hunanasesiad ar y wefan a fydd yn cynnig cyngor ac arweiniad sy’n benodol i chi.

Dilynwch y ddolen hon i wefan Pwysau Iach Byw'n Iach lle gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth.

Bydd rhaglenni colli pwysau yn eich ardal leol hefyd. Efallai y bydd eich meddygfa neu fferyllfa yn gallu eich pwyso a'ch cyfeirio at gyngor.

Gwasanaeth Maeth a Dieteteg

Mae'r Gwasanaeth Maeth a Dieteteg ym Mae Abertawe yn cynnig ymyriad rheoli pwysau grŵp ar Lefel 2 o Lwybr Rheoli Pwysau Cymru Gyfan. Mae'n rhaglen 6 wythnos gyda phob sesiwn awr a hanner yn darparu gwybodaeth i'ch helpu i wneud dewisiadau gwybodus ynghylch arferion bwyta i'ch helpu i golli pwysau a gwella'ch iechyd.

Gallwch gael eich atgyfeirio ar gyfer ein grŵp rheoli pwysau os yw eich BMI dros 30, neu 28 os oes gennych ddiabetes, pwysedd gwaed uchel neu golesterol uchel. Gall eich Meddyg Teulu, Nyrs Practis neu Weithiwr Gofal Iechyd Proffesiynol arall eich cyfeirio.

NHS Better Health

Mae'r dudalen we GIG hon yn cynnwys gwybodaeth am golli pwysau, rhoi'r gorau i ysmygu, gweithgaredd ac yfed alcohol.

Mae hefyd yn cynnwys nifer o adnoddau defnyddiol gan gynnwys cyfrifiannell BMI, ryseitiau iach a chyngor dietegol.

Dilynwch y ddolen hon i dudalen we NHS Better Health lle gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth.

Cymdeithas Dietegwyr Prydain

Mae Cymdeithas Dietegwyr Prydain wedi creu taflen ffeithiau sydd wedi'i hanelu at unigolion sy'n byw gyda thros bwysau neu ordewdra i'w helpu i symud tuag at bwysau iachach.

Dilynwch y ddolen hon i wefan Cymdeithas Dietegwyr Prydain lle gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth.

Cyngor ymarfer corff

Efallai y bydd gennych ddiddordeb hefyd yn y tudalennau gwe cyngor ymarfer corff hyn gan y GIG. Sylwch fod y tudalennau gwe hyn yn Saesneg yn unig:

Ewch yma am help a chyngor cyffredinol y GIG ar ymarfer corff

Ewch yma i gael cymorth a chyngor gan y GIG am ymarferion y gallwch eu gwneud wrth eistedd

Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.