Mae'r system archebu yn atal ciwiau ac arhosiadau hir rhag ffurfio yn yr adran. Cynghorir cleifion i gyrraedd dim mwy na phum munud cyn eu slot apwyntiad.
Yn ein harlowg cleifion diweddar, rhoddodd 85% o bobl a ymatebodd adborth cadarnhaol am y system apwyntiadau.
Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.