Neidio i'r prif gynnwy

Manylion clinig prawf gwaed

Sylwch mai apwyntiad yn unig yw pob prawf gwaed a rhaid eu harchebu ar-lein neu dros y ffôn. Ffôn 01792 601807, dydd Llun i ddydd Gwener, rhwng 9am a 4pm.

Ewch i'r dudalen hon i drefnu apwyntiad prawf gwaed ar-lein.

 

Ysbyty Gorseinon, Heol Brynawel, Gorseinon

Mae profion gwaed nawr ar gael ar ddydd Llun, dydd Mawrth a dydd Mercher rhwng 8.00am a 3.45pm. Mae'r clinig profion gwaed yn Ysbyty Gorseinon wedi'i adleoli i adeilad sydd newydd ei adnewyddu y tu ôl i'r prif ysbyty.

 

Clinig Canolog, Stryd y Berllan, Abertawe

Mae clinig prawf gwaed dros dro yn dal i redeg yng Nghlinig Canolog, Stryd y Berllan, Abertawe,

Mae clinigau'n rhedeg ar ddydd Llun, dydd Mawrth a dydd Iau. Bydd profion gwaed hefyd ar gael yng Nghlinig Canolog ddydd Gwener 5 Mai 2023, rhwng 8.00am a 3.45pm.

Mae'r clinig newydd yn rhan o'n cynllun Bwrdd Iechyd hirdymor i ddarparu profion gwaed rheolaidd, fel y rhai y gofynnir amdanynt gan Feddygon Teulu, yn hybiau cymunedol ar draws ardaloedd Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot.

Bydd y gwasanaeth dros dro yn rhedeg wrth i'r Bwrdd Iechyd geisio am leoliad parhaol ar gyfer profion gwaed yng nghanol y dref neu’n agos ato.

 

Canolfan Adnoddau Port Talbot, Heol Moor, Port Talbot

Mae clinig Canolfan Adnoddau Port Talbot yn rhedeg rhwng 8.00am a 3.45pm, dydd Llun i ddydd Iau.

Mae gan y ganolfan faes parcio a pharcio ychwanegol wedi'u neulltio at ddefnydd ymwelwyr â’r Ganolfan Andoddau ym maes parcio Morrisons y drws nesaf.

 

Ysbyty Treforys  

Nodwch, mae'r gwasanaeth profi gwaed ym mlaen y Lolfa Ryddhau, tu fewn i fynedfa'r ysbyty ar y chwith, drws nesaf i Costa.

Mae'r clinig yn gweithredu dydd Llun i ddydd Gwener 8am i 4:40pm.

 

Ysbyty Castell Nedd Port Talbot

Ewch i mewn i brif atriwm ac ewch i ddesg derbynfa profi gwaed sydd y tu fewn i’r prif glinig cleifion allanol. O'r fan honno byddwch yn cael eich cyfeirio gan aelod o staff.

Rydym wedi cyflwyno system apwyntiadau ar gyfer pob prawf gwaed.

Bydd yna nifer penodol o apwyntiadau ar gael ar gyfer profion gwaed wedi'u harchebu bob dydd. Mae rhai profion nad oes modd eu gwneud yn Ysbyty Castell-nedd Port Talbot, dilynwch y canllawiau uchod.

Cadwch at eich amser apwyntiad a ddyrannwyd gan y gallech gael eich troi i ffwrdd os byddwch yn cyrraedd yn gynnar neu'n hwyr.

Dydd Llun i ddydd Gwener, 8am i 4:30pm.

 

Ysbyty Singleton  

Mae'r adran fflebotomi wedi'i lleoli i fyny'r bryn i ochr dde'r ysbyty. Ewch heibio mynedfa'r farwdy ar yr ochr chwith, ac fe welwch fynedfa'r adran fflebotomi. Cewch eich cyfarch gan wirfoddolwr a fydd yn cymryd eich manylion.

Rydym wedi cyflwyno system apwyntiadau ar gyfer pob prawf gwaed.

Bydd yna nifer penodol o apwyntiadau ar gael ar gyfer profion gwaed wedi'u harchebu bob dydd.Mae rhai profion nad oes modd eu gwneud yn Ysbyty Singleton, dilynwch y canllawiau uchod.

Cadwch at eich amser apwyntiad a ddyrannwyd gan y gallech gael eich troi i ffwrdd os byddwch yn cyrraedd yn gynnar neu'n hwyr.

Dydd Llun i ddydd Gwener, 8am i 4.40pm.

Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.