Neidio i'r prif gynnwy

Cleifion ar warfarin

Mae angen i gleifion sy'n rhagnodi warfarin gael profion gwaed rheolaidd i fesur eu INR. Prawf yw hwn i fesur eu hamser ceulo gwaed.

Mae'n hanfodol eich bod chi'n dod â'ch ffurflen gais INR gyda chi ar gyfer y prawf hwn.

Os nad oes gennych y ffurflen hon, ni fyddwch yn gallu cael y prawf gwaed a bydd angen i chi gysylltu â chlinig gwrthgeulo yr ysbyty. Y rhif cyswllt yw 01792 618876 rhwng 9yb a 4.30yh, o Ddydd Llun i Ddydd Gwener. Sylwch, mae'r rhif hwn ar gyfer y clinig gwrthgeulo YN UNIG. Peidiwch â ffonio'r rhif hwn os oes angen i chi archebu prawf gwaed cyffredinol, gan na fyddant yn gallu helpu. Os oes angen i chi archebu prawf gwaed cyffredinol, ffoniwch 01792 601807.

Yn y rhan fwyaf o achosion byddwch yn derbyn eich canlyniad INR a'ch dos warfarin ar yr un diwrnod.

SYLWCH: Os nad ydych bellach yn rhan o'r gwasanaeth monitro INR yn yr ysbyty a'ch bod wedi cael eich trosglwyddo i brofion pwynt gofal gofal sylfaenol (POCT), bydd angen i chi gysylltu â'ch meddygfa os oes unrhyw broblemau, cwestiynau neu pryderon. Gallwch hefyd ffonio Clinig Gwrthgeulo Abertawe ar 01792 618876.

Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.