Neidio i'r prif gynnwy

Caniatâd

Mae caniatâd i driniaeth yn golygu bod yn rhaid i berson roi caniatâd cyn cael unrhyw fath o driniaeth feddygol, prawf neu archwiliad. Mae angen caniatâd gan glaf waeth beth fo'r driniaeth, boed yn archwiliad corfforol neu rywbeth arall.

Ar gyfer fflebotomi neu brawf gwaed rhaid gwneud hyn ar sail esboniad gan fflebotomydd hyfforddedig.

Gellir rhoi caniatâd:

  • Ar lafar – er enghraifft, person yn dweud ei fod yn hapus i gael prawf gwaed
  • Yn ysgrifenedig – er enghraifft, llofnodi ffurflen ganiatâd ar gyfer llawdriniaeth
  • Di-eiriau - Gallai rhywun hefyd roi caniatâd di-eiriau, cyn belled â’i fod yn deall y driniaeth neu’r archwiliad sydd ar fin digwydd – er enghraifft, dal braich allan ar gyfer prawf gwaed

Dylid rhoi caniatâd i'r gweithiwr gofal iechyd proffesiynol sy'n gyfrifol am brawf neu weithdrefn y person.

Caniatâd gan blant a phobl ifanc

Bydd angen i rywun sydd â chyfrifoldeb rhiant roi caniatâd i blentyn hyd at 16 oed gael prawf gwaed.

Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.