Neidio i'r prif gynnwy

Gwaedu ar ôl y menopos (GAOYM)

PWYSIG: Ar gyfer pob apwyntiad clinig Gwaedu ar ôl y Menopos, atgoffir cleifion i gymryd cyffuriau lleddfu poen, fel 1 gram o barasetamol a 400mg o ibuprofen, neu'r cyffur lleddfu poen arferol a gymerwch gartref, un awr cyn yr apwyntiad. Mae'n bwysig eich bod yn bwyta ac yfed fel arfer cyn eich ymweliad er mwyn atal teimlo'n benysgafn neu lewygu.

 

Beth yw Gwaedu ar ôl y Menopos (GAOYM)?

Mae Gwaedu ar ôl y Menopos yn cyfeirio at waedu o leiaf 12 mis ar ôl i'ch mislif ddod i ben, neu waedu annormal tra byddwch ar therapi amnewid hormonau (TAH). Dylid bob amser ymchwilio i waedu ar ôl diwedd y menopos.

Mae sawl achos dros waedu ar ôl y menopos. Mewn dros 90% o achosion, mae'n rhywbeth syml iawn, yn enwedig os ydych chi'n cymryd TAH. Fodd bynnag, mewn lleiafrif o fenywod (llai na 10%) gall fod annormaledd yn leinin y groth (yr endometriwm) neu weithiau ar wddf y groth (ceg y groth). Gall y celloedd yn y rhanbarthau hyn ddod yn annormal neu ganseraidd. Hoffem bwysleisio nad oes tystiolaeth o ganser mewn dros 90% o'r holl achosion.

 

Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.