Neidio i'r prif gynnwy

Gwybodaeth am driniaeth radiotherapi

Wedi'i ddiweddaru: 08.02.2024

Unwaith y bydd y gwaith cynllunio wedi'i gwblhau bydd y staff yn yr adran radiotherapi yn cysylltu â chi gyda dyddiad dechrau eich triniaeth.

Rhoddir radiotherapi mewn llawer o wahanol ffyrdd. Gellir ei roi fel un driniaeth neu gellir gofyn i chi fynychu bob dydd o ddydd Llun i ddydd Gwener am hyd at saith wythnos.

Gall eich amser triniaeth amrywio gan fod llawer o amserau darparu radiotherapi.

Rhoddir y driniaeth i chi gan radiograffwyr therapi.

Mae'r driniaeth yn ddi-boen, ond gall roi sgîl-effeithiau i chi wrth i chi symud ymlaen â'ch triniaeth. Bydd hyn yn cael ei drafod yn fwy manwl gyda chi ar eich diwrnod cyntaf.

Byddwch yn cael eich gweld bob wythnos gan ein radiograffwyr adolygu a byddwch fel arfer yn gweld y meddygon tua diwedd eich triniaeth i drafod beth sy'n digwydd nesaf.

Mae eich apwyntiadau fel arfer rhwng 8.30yb a 5.00yp. Fodd bynnag, os oes peiriant yn cael ei wasanaethu yna efallai y gofynnir i chi fynychu yn gynharach neu'n hwyrach na hyn.

Yn anffodus, oherwydd y galw ar y peiriannau, ni allwn roi slot amser rheolaidd penodol i chi. Fodd bynnag, os oes gennych ymrwymiad bod angen i chi fynychu ar ddiwrnod penodol bydd y staff yn gwneud eu gorau i ddarparu ar eich cyfer.

Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.