Neidio i'r prif gynnwy

Ydw i mewn categori risg uchel?

Rydym yn cynghori'r rhai sydd â risg uwch o salwch difrifol o coronafeirws (COVID-19) i fod yn arbennig o gaeth wrth ddilyn mesurau pellhau cymdeithasol.

Mae hyn yn cynnwys pobl dros 70 oed a phobl â chyflwr cronig fel sglerosis ymledol.

Mae yna rai cyflyrau clinigol sy'n rhoi pobl mewn risg uwch fyth o salwch difrifol o COVID-19.

Os ydych chi'n cymryd cyffuriau sy'n lleihau eich system imiwnedd, yna rydych chi mewn perygl difrifol. Mae'r cyffuriau hyn yn cynnwys:

  • Steroidau fel tabledi prednisolone;
  • Triniaeth addasu clefyd fel ocrelizumab a fingolimod.
  • Fumarate dimethyl os yw'ch cyfrif lymffocyt yn llai na 0.8
  • Os cawsoch eich trin yn flaenorol ag alemtuzumab a cladribine a bod eich cyfrif lymffocyt yn llai na 0.8.

Os ydych mewn risg uchel, dylech ddilyn canllawiau pellhau yn unol â chyngor llywodraeth y DU a monitro gwefan y llywodraeth i gael y wybodaeth ddiweddaraf. Gweler y ddolen i'n tudalen Coronafeirws bwrpasol.

Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.