Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe wedi ymrwymo i wneud ei wefan yn hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Chymwysiadau Symudol) (Rhif 2) 2018.
Mae'r wefan hon yn cydymffurfio'n rhannol â safon AA Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwe fersiwn 2.1, oherwydd y diffyg cydymffurfio a'r eithriadau a restrir isod.
Nid yw'r cynnwys a restrir isod yn hygyrch am y rhesymau canlynol:
Byddwn yn blaenoriaethu gwybodaeth cleifion i sicrhau ei bod yn hygyrch yn ddigidol lle bynnag y bo modd.
Ond gwyddom fod rhai adrannau o'n gwefan o natur gorfforaethol, nad ydynt yn hygyrch ar hyn o bryd ac a gynhyrchwyd rhwng Medi 2018 a Medi 28ain 2023. Mae gwneud yr adrannau hyn a'r nifer helaeth o ddogfennau sydd ynddynt yn hygyrch yn ôl-weithredol yn anghymesur.
Ar hyn o bryd, mae’r adrannau hyn wedi’u rhestru fel a ganlyn: (ac yn amodol ar newid):
Ewch i'n tudalen asesu baich anghymesur am ragor o fanylion.
Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.