Neidio i'r prif gynnwy

Canolfannau plant

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe yn cynnwys dwy brif ardal: Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot. Fel rhan o'r gwasanaeth pediatrig cymunedol arbenigol, mae gan bob ardal ei chanolfan blant bwrpasol ei hun sydd wedi'i lleoli ar safle eu prif ysbyty lleol.

Sefydlwyd y canolfannau plant i ddarparu gofod arbenigol, pwrpasol i blant a'u teuluoedd dderbyn y gofal arbenigol ac unigol sydd ei angen arnynt.

Gyda chysylltiadau agos ag addysg a gwasanaethau cymdeithasol, maen nhw'n yn darparu gwasanaeth cymunedol cyflawn i blant 0-19 oed ag anghenion ychwanegol a'u teuluoedd.

Mae cael canolfannau plant pwrpasol hefyd yn golygu y gellir cydleoli gweithwyr proffesiynol o ystod o ddisgyblaethau clinigol a therapiwtig gwahanol i hyrwyddo gweithio amlddisgyblaethol agosach.

Mae hyn yn ein helpu i sicrhau bod plant a’u teuluoedd yn cael gofal cyfannol rhagorol gan dîm o weithwyr proffesiynol amlddisgyblaethol a’u bod yn cael eu gweld gan y gweithiwr proffesiynol mwyaf priodol ar gyfer eu hanghenion.

 

Hafan y Môr (Abertawe)

Mae Canolfan Blant Hafan y Môr yn ganolfan newydd ei hadnewyddu ar gyfer plant ag anghenion ychwanegol wedi’i lleoli ar safle Ysbyty Singleton. Mae ganddi ei mynedfa ddiogel ddynodedig ei hun a maes parcio a reolir gan rwystrau. Gellir cael mynediad iddi hefyd trwy brif adeilad yr ysbyty.

Mae gennym nyrsys, therapyddion galwedigaethol, pediatregwyr, ffisiotherapyddion a therapyddion iaith a lleferydd yn gweithio yma. Mae’r ganolfan hefyd yn darparu canolfan ar gyfer:

  • Clinigau amlddisgyblaethol

  • Clinigau orthopedig

  • Clinigau orthoteg

  • Clinigau sblintio breichiau

Yn ogystal, mae Hafan y Môr hefyd yn cael ei ddefnyddio ar gyfer nifer o weithgareddau codi arian a chefnogaeth i blant a phobl ifanc ag anableddau yn ystod penwythnosau gan y Llyfrgell Cyfleoedd Chwarae a Hamdden (Llyfrgell Deganau) a Therapi i Blant Abertawe – Grŵp Cefnogi Therapi Plant Abertawe.

Hafan y Mor,

Canolfan y Plant,

Bloc Ward y Gorllewin,

Lefel 2,

Lôn Sgeti,

Sgeti,

Abertawe,

SA2 8QA.

Ffôn: 01792 200400

 

Canolfan Plant Castell-nedd Port Talbot

Mae Canolfan Plant Castell-nedd Port Talbot wedi'i lleoli ar safle Ysbyty Castell-nedd Port Talbot ac mae ar wahân i brif adeilad yr ysbyty a'r Uned Asesu Plant . Mae maes parcio dynodedig am ddim i ddefnyddwyr y ganolfan blant. Mae'n bartneriaeth lwyddiannus rhwng y GIG a'r Gwasanaethau Cymdeithasol.

Mae’r gwasanaethau yma’n cynnwys Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a’r Glasoed, pediatregwyr, therapyddion galwedigaethol, ffisiotherapyddion, therapyddion iaith a lleferydd a gwasanaeth anhwylderau niwroddatblygiadol. Mae’r ganolfan hefyd yn darparu canolfan ar gyfer:

  • Clinigau amlddisgyblaethol

  • Clinigau orthopedig

  • Clinigau orthotig

  • Ymwelwyr iechyd anabledd

  • Clinigau sblintio breichiau

  • Cylch Chwarae Building Blocks

 

Ysbyty Castell-nedd Port Talbot,

 

Canolfan Plant.

Ffordd Baglan,

Port Talbot,

SA12 7BX.