Neidio i'r prif gynnwy

Gwasanaethau cymunedol

Mamau, tadau a gofalwyr - Cysylltwch â'ch meddyg teulu neu'ch ymwelydd iechyd yn gyntaf os oes gennych bryderon am eich plentyn a bydd yn penderfynu a yw atgyfeirio i'n gwasanaethau yn briodol.

Ar y dudalen hon fe welwch wybodaeth am ein gwasanaeth pediatrig cymunedol arbenigol, gan gynnwys y gwasanaethau a gynigir a'r hyn y gallwch ei ddisgwyl mewn apwyntiadau.

Yr hyn rydyn ni'n ei wneud

Nod ein gwasanaeth pediatrig cymunedol arbenigol yw hybu iechyd a lles plant a phobl ifanc (0-16 oed, a hyd at 19 oed mewn rhai amgylchiadau) sy'n byw yn ardaloedd Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot.

Mae’n wasanaeth asesu a diagnostig iechyd plant arbenigol wedi’i staffio gan feddygon iechyd plant arbenigol, ar y cyd â staff therapi a nyrsio.

Rydym yn gweithio mewn partneriaeth â theuluoedd, gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd, addysg, gwasanaethau cymdeithasol a sefydliadau gwirfoddol.

Efallai y bydd pediatregwyr cymunedol (meddygon plant) yn gallu helpu gyda phryderon am:

  • Ddatblygiad

  • Cyfathrebu

  • Plant ag anableddau

  • Gwlychu'r gwely

  • Anghenion iechyd cymhleth

Ar gyfer plant sy'n byw yn ardal Castell-nedd Port Talbot mae gennym ni glinigau yng Nghanolfan Blant Castell-nedd Port Talbot ac yn Ysgol Arbennig Maes-y-coed (ar gyfer plant a phobl ifanc sy'n mynychu'r ysgol hon).

Ar gyfer plant sy'n byw yn ardal Abertawe mae gennym ni glinigau yng Nghanolfan Blant Hafan y Môr ac yn ysgolion arbennig Crug Glas a Phenybryn (ar gyfer plant a phobl ifanc sy'n mynychu'r ysgolion hyn).

Ewch i'r dudalen hon am ragor o wybodaeth am y gwasanaeth ymwelwyr iechyd.

Gwasanaethau rydyn ni'n eu cynnig

  • Clinigau asesu niwroddatblygiadol

  • Clinigau tîm amlddisgyblaethol

  • Gwasanaeth eniwresis nosol pediatrig (gwlychu gwelyau).

  • Clinigau asesu cyfathrebu cymdeithasol

  • Clinig asesu anawsterau cydsymud datblygiadol

  • Monitro plant â chyflyrau niwro-anablu gydol oes

  • Clinigau mewn ysgolion arbennig ar gyfer plant ag anghenion cymhleth

  • Asesiad meddygol ar gyfer colli clyw

 

Rydym hefyd yn darparu gwasanaethau statudol ar y cyd â gweithwyr proffesiynol eraill ym maes iechyd, gofal cymdeithasol ac addysg, gan gynnwys:

  • Clinigau plant sy'n derbyn gofal.

  • Anghenion dysgu ychwanegol (ADY) / clinigau datganiad meddygol

  • Clinigau amddiffyn plant (diogelu). Mae'r rhain wedi'u canoli yn Abertawe.

  • Clinigau meddygol mabwysiadu. Mae'r rhain wedi'u canoli i Abertawe.

 

Mae gwasanaethau cymorth ôl-ddiagnostig hefyd wedi’u datblygu gyda’i gilydd gan y timau yng Nghanolfannau Plant Hafan y Môr a Chastell-nedd Port Talbot:

  1. Rhaglen Camau Nesaf – cwrs chwe wythnos sy’n cael ei redeg gan y tîm aml-asiantaeth ar gyfer rhieni plant sydd newydd gael diagnosis o dan bum mlwydd oed ag Anhwylder ar y Sbectrwm Awtistig.

  1. Camu Ymlaen – cwrs chwe wythnos i rieni plant sydd newydd gael diagnosis ag anableddau dysgu sy’n cael ei redeg gan y tîm amlddisgyblaethol.

 

Beth allwch chi ei ddisgwyl?

Byddwch yn gweld un o ystod o feddygon cymunedol pediatrig yn dibynnu ar anghenion eich plentyn. Gall fod yn ddefnyddiol ysgrifennu unrhyw gwestiynau sydd gennych i'ch atgoffa.

Bydd yr asesiad yn seiliedig ar anghenion eich plentyn a'r clinig yr ydych yn ei fynychu. Efallai y byddwn yn archwilio eich plentyn ac yn trafod ei hanes meddygol.

Ar ôl yr asesiad, byddwn yn paratoi adroddiad o'n canfyddiadau ar gyfer yr atgyfeiriwr ac fel arfer byddwn yn rhannu hwn â chi, meddyg teulu eich plentyn ac unrhyw bartïon perthnasol eraill. Byddwn yn trafod unrhyw ymchwiliadau addas y teimlwn y gallen nhw fod yn briodol gyda chi.

Byddwn yn trafod y canlyniadau posibl gyda chi a'ch plentyn yn yr apwyntiad a bydd ein hargymhellion cytunedig yn cael eu cynnwys yn yr adroddiad. Efallai y bydd apwyntiad dilynol yn cael ei gynllunio.

 

Apwyntiadau

Os nad oes angen apwyntiad arnoch mwyach neu os na allwch ddod i'r apwyntiad a gynigir, cysylltwch â ni cyn gynted â phosibl i aildrefnu neu ganslo. Mae amseroedd ein hapwyntiadau yn amrywio a gallant fod rhwng 30 a 90 munud. Mae hwn yn amser gwerthfawr. Rydym yn dymuno ailddyrannu i rywun arall os nad ydych yn gallu bod yn bresennol. Bydd methu â mynychu apwyntiad heb rybudd o flaen llaw yn arwain at ryddhau awtomatig o'r gwasanaeth. Yna byddai angen i chi fynd yn ôl at eich meddyg teulu / ymwelydd iechyd i roi atgyfeiriad newydd.

 

Gofalu am eich gwybodaeth, cydsyniad a chyfrinachedd

Rydym yn cadw at godau ymddygiad llym mewn perthynas â chaniatâd a chyfrinachedd. Yn unol â’r GDPR, byddwch yn cael hysbysiad preifatrwydd gan y person a wnaeth yr atgyfeiriad gwreiddiol ar gyfer y gwasanaeth, neu gyda’r llythyr apwyntiad, ynghylch ein polisi rhannu gwybodaeth. Darllenwch y wybodaeth hon yn ofalus. Rhagdybir caniatâd i rannu gwybodaeth oni nodir yn wahanol gennych chi wrth fynychu'r apwyntiad.

Sylwer: Mae gennym ddyletswydd gyfreithiol i rannu gwybodaeth pan fo pryderon ynghylch diogelu lles plentyn.

 

Am y clinigau

Defnyddir clinigau asesu niwroddatblygiadol i asesu ac ymchwilio i blant cyn oed ysgol sydd â phryderon ynghylch anhwylderau niwroddatblygiadol. Mae'r rhain fel arfer yn glinigau meddyg yn unig, ond gallan nhw gynnwys therapyddion yn dibynnu ar anghenion penodol plentyn.

Mae clinigau asesu tîm amlddisgyblaethol ar gyfer asesu plant ag anawsterau datblygiadol yn gyfannol. Mae'r rhain yn cynnwys meddyg gyda thîm amlddisgyblaethol o therapyddion (therapyddion galwedigaethol, ffisiotherapyddion, therapyddion iaith a lleferydd) a gweithwyr proffesiynol eraill (ymwelwyr iechyd arbenigol, deietegydd, nyrs gymunedol, gweithiwr cymdeithasol), yn dibynnu ar anghenion penodol plentyn.

Mae clinigau eniwresis nosol yn asesu, ymchwilio a thrin plant ag anawsterau gwlychu'r gwely.

Mae clinigau asesu cyfathrebu cymdeithasol yn glinigau meddyg yn unig ar y cyd â therapyddion iaith a lleferydd ac fe’u defnyddir i asesu plant ag anawsterau cyfathrebu cymdeithasol/Anhwylder Sbectrwm Awtistiaeth.

Mae clinigau anawsterau cydsymud datblygiadol yn cael eu rhedeg ar y cyd â’r therapyddion galwedigaethol a’r ffisiotherapyddion ac yn asesu plant ag anawsterau cydsymud, yn dilyn atgyfeiriad trwy’r llwybr ysgol.

Mewn clinigau meddygol rydym yn asesu plant am broblemau meddygol sylfaenol.

Mewn clinigau anghenion dysgu ychwanegol rydym yn asesu anghenion meddygol plant fel rhan o broses yr Asesiad Statudol o Anghenion Addysgol, ar gais yr Awdurdod Addysg Lleol.

Mewn clinigau plant sy'n derbyn gofal rydym yn darparu asesiad cychwynnol ar gyfer plant cyn-ysgol a leolir mewn gofal.

Mewn clinigau amddiffyn plant rydym yn asesu ar gyfer cam-drin corfforol, cam-drin rhywiol, cam-drin emosiynol ac esgeulustod ar gais y gwasanaethau cymdeithasol.

Cynhelir clinigau mabwysiadu i asesu plant yn feddygol a chyfarfod a chynghori darpar fabwysiadwyr.

 

Gwasanaethau Cysylltiedig Eraill (nad ydynt yn cael eu cyrchu'n bennaf trwy bediatreg gymunedol) a sut i gael gafael arnynt

 

Twf: Dylech weld eich meddyg teulu yn y lle cyntaf a all benderfynu bod atgyfeirio at bediatregydd cyffredinol yn briodol.

Clyw: Gall eich meddyg teulu neu'ch ymwelydd iechyd atgyfeirio’n uniongyrchol at y gwasanaeth awdioleg arbenigol. Nid yw'r gwasanaeth hwn ar gael o fewn pediatreg gymunedol.

Eniwresis (gwlychu yn ystod y dydd a'r nos) mewn plant cyn oed ysgol: Efallai y bydd eich ymwelydd iechyd yn gallu darparu cyngor ar hyfforddiant toiled. Nid yw'r gwasanaeth hwn ar gael o fewn pediatreg gymunedol ar gyfer y grŵp oedran hwn.

Anawsterau dysgu, anawsterau cyfathrebu cymdeithasol a phryderon am ADHD posibl (anhwylder diffyg canolbwyntio a gorfywiogrwydd) a DCD (anhwylder cydsymud datblygiadol) mewn plant oedran ysgol: Dylid eu hasesu i ddechrau gan y cydlynydd anghenion dysgu ychwanegol, gyda mewnbwn gan seicolegydd addysg yn ôl yr angen. Dylid gwneud cyfeiriadau yn unol â'r llwybrau aml-asiantaeth sefydledig ar gyfer Anhwylder Sbectrwm Awtistiaeth, ADHD a DCD.

Problemau iechyd meddwl: Dylech weld eich meddyg teulu yn y lle cyntaf a all benderfynu ei bod yn briodol eich cyfeirio at y tîm iechyd meddwl. Nid yw'r gwasanaeth hwn ar gael o fewn pediatreg gymunedol.

Problemau emosiynol ac ymddygiadol: Dylech weld eich meddyg teulu/ymwelydd iechyd yn y lle cyntaf, a all gynnig strategaethau syml a'ch cyfeirio at grwpiau lleol gan gynnwys cymorth rhianta. Nid yw'r gwasanaeth hwn ar gael o fewn pediatreg gymunedol.

Gordewdra: Dylech weld eich meddyg teulu/ymwelydd iechyd yn y lle cyntaf, a all gynnig strategaethau syml a'ch cyfeirio at grwpiau lleol. Nid yw'r gwasanaeth hwn ar gael o fewn pediatreg gymunedol.