Neidio i'r prif gynnwy

SilverCloud - Cymorth Iechyd Meddwl Ar-lein

Llun o logo Silvercloud a fenyw ar dabled

Beth yw rhaglenni SilverCloud?

Os ydych chi’n teimlo dan straen, yn orbryderus neu’n isel, dydych chi ddim ar eich pen eich hun. Mae tua 1 ym mhob 4 oedolyn yn stryglo gyda heriau iechyd meddwl. Mae cymorth ar gael i chi.

Mae SilverCloud gan Amwell yn wasanaeth cymorth iechyd meddwl ar-lein am ddim sydd ar gael drwy GIG Cymru heb angen atgyfeiriad gan feddyg teulu. Trwy SilverCloud, gallwch ddefnyddio ystod o raglenni hunangymorth dan arweiniad i'ch helpu chi rheoli a gwella eich iechyd meddwl a'ch lles. Mae cefnogaeth ar gael ar gyfer gorbryder ysgafn-i-gymedrol, iselder, straen, anawsterau cysgu a mwy.

Mae pob rhaglen yn defnyddio technegau sy'n seiliedig ar Therapi Gwybyddol Ymddygiadol (CBT) sy'n gweithio drwy eich annog i herio'r ffordd rydych chi'n meddwl ac yn ymddwyn fel eich bod mewn sefyllfa well i ddelio â phroblemau bywyd.

Gallwch gofrestru ar-lein a dewis un o'r rhaglenni iechyd meddwl a lles ar-lein sy’n hawdd eu defnyddio, yn rhyngweithiol i'w cwblhau dros 12 wythnos. Er ei fod yn wasanaeth hunangymorth ar-lein, mae rhaglenni SilverCloud yn cael eu cefnogi gan dîm o staff y GIG sydd wedi'u hyfforddi i ddarparu cymorth iechyd meddwl ar-lein. Ar ôl cofrestru, bydd 'Cefnogwr SilverCloud' yn eich tywys drwy'r rhaglen, gan ddarparu adborth a chyngor ysgrifenedig bob pythefnos trwy neges ar-lein.

I siaradwyr Cymraeg, mae gennym dair rhaglen fwyaf poblogaidd ar gael yn Gymraeg– Gofod o Orbryder, Gofod rhag Iselder, a Gofod rhag Iselder a Gorbryder. Mae gennym Gefnogwr SilverCloud sy'n siarad Cymraeg wrth law i'ch helpu chi.

Mae SilverCloud wedi cael ei greu i siwtio eich bywyd chi! Gallwch gyrchu’ch rhaglen unrhyw le, unrhyw bryd o'ch ffôn symudol, llechen, cyfrifiadur neu liniadur.

Dilynwch y ddolen hon i ddysgu mwy am y gwasanaeth ac i gofrestru.

Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.