Neidio i'r prif gynnwy

Cwynion, Pryderon, Canmoliaeth

Nod Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe yw darparu'r gofal a'r driniaeth orau gallwn. Rydym yn croesawu'ch holl farnau ac eisiau dysgu o'ch profiadau, da neu ddrwg.

Mae mwyafrif llethol y bobl yn hapus gyda'r gwasanaeth maen nhw'n ei dderbyn. Weithiau, serch hynny, efallai na fydd pethau'n mynd cystal â'r disgwyl. Trwy ddweud wrthym am eich pryderon, gallwn ymddiheuro i chi, ymchwilio a cheisio cywiro pethau. Byddwn hefyd yn dysgu gwersi ac yn gwella gwasanaethau.

Sut alla i godi fy mhryder?

Yn bersonol:

Os ydych chi'n teimlo y gallwch chi wneud hynny, y lle gorau i ddechrau yw trwy siarad â'r staff a oedd yn ymwneud â'ch gofal a'ch triniaeth. Gallant geisio datrys eich pryder ar unwaith.

Trwy ein hymgyrch Dewch i Siarad:

Os ydych chi am roi gwybod am yr hyn rydych chi'n meddwl a allai fod yn ofal gwael tra yn yr ysbyty, neu os ydych chi am ddweud wrthym am ofal gwych, gallwch ddefnyddio ein hymgyrch Dewch i Siarad:

• Dywedwch wrth aelod o staff ar unwaith

• Neu, defnyddiwch ein e-bost pwrpasol: SBU.LetsTalk@wales.nhs.uk

• Neu gallwch ein ffonio ni ar 01639 684440 a gadael neges llais

Bydd eich pryder yn cael ei drin yn gyfrinachol, ac nid oes angen i chi roi eich enw na'ch manylion personol, oni bai eich bod chi eisiau ateb.

Os ydych am wneud cwyn gallwch gysylltu â'r Tîm Adborth Cleifion, sy'n delio â chwynion:

Ffôn: 01639 683363/683316

Neges testun: 07903594520

E-bost: SBU.Complaints@wales.nhs.uk

Neu gallwch ysgrifennu at :

Mark Hackett, Prif Weithredwr

Pencadlys Bwrdd Iechyd BA, 1 Talbot Gateway

Parc Ynni Baglan, Port Talbot,

SA12 7BR

Efallai y bydd adegau pan fydd unigolion, gofalwyr a theuluoedd eisiau canmol y ward am ansawdd y gofal a dderbynnir. Cofnodir pob canmoliaeth gan y sefydliad i fonitro safon y gwasanaethau a roddir i gleifion a'u gofalwyr/ teuluoedd. Bydd nyrsys y ward yn helpu i egluro'r broses hon pe bai canmoliaeth yn cael ei rhoi i'r gwasanaeth.

Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.