Neidio i'r prif gynnwy

Gwybodaeth ac adnoddau Therapi Galwedigaethol

Dilynwch y ddolen hon i gael gwybodaeth fanylach ac adnoddau ar dudalen Therapi Galwedigaethol Cyngor Abertawe.

Gallwch atgyfeirio eich hun neu rywun arall (gyda’u caniatâd) yn uniongyrchol i’n gwasanaeth drwy Ffurflen Atgyfeirio Ar-lein Gwasanaethau Oedolion. Dilynwch y ddolen hon ar gyfer y ffurflen atgyfeirio ar-lein.

Fel arall gallwch gysylltu â ni drwy'r Pwynt Mynediad Cyffredin (CAP - Common Access Point ) ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol.

Mae'r tîm hwn yn delio â'r holl ymholiadau ac atgyfeiriadau cychwynnol sy'n ymwneud â phobl hŷn ac oedolion ag anabledd corfforol. Ar adegau prysur, gellir cynnal galwadau mewn ciw.

Gellir cysylltu â'r Pwynt Mynediad Cyffredin ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol dros y ffôn ar 01792 636519 neu drwy e-bost: CAP@abertawe.gov.uk .


Os yw eich ymholiad yn ymwneud yn bennaf ag addasiadau mawr i'ch eiddo preifat neu eiddo'r Cyngor, cysylltwch ag Adran Adnewyddu ac Addasiadau Trefol Cyngor Abertawe yn uniongyrchol 01792 635330.

 

Ar gyfer ymholiadau yn ymwneud ag addasiadau i eiddo Cymdeithasau Tai cysylltwch â'r Pwynt Mynediad Cyffredin.

Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.