Mae ein gwasanaeth CAMHS wedi parhau i weithio gyda phlant a phobl ifanc ers dechrau pandemig y coronafeirws. Bu'n rhaid i ni newid y ffordd rydyn ni'n rhedeg ein gwasanaeth i gydymffurfio â rheolau'r Llywodraeth. Rydym ni'n dechrau cefnogi llawer o'r bobl ifanc rydyn ni'n eu gweld naill ai drwy ymgynghoriadau rhithwir neu dros y ffôn. Lle bu angen clinigol i weld rhywun yn bersonol, rydym wedi gwneud hyn, ond rydym wedi parhau i gadw at y canllawiau pellhau cymdeithasol.
Rydym ni wedi cynnal nifer o asesiadau risg ym mhob un o'n clinigau ac rydym wedi dechrau cyflwyno mwy o ymgynghoriadau wyneb yn wyneb lle nad yw'n bosibl darparu ymyrraeth therapiwtig o bell. Fodd bynnag, mae angen i'r GIG gadw at y mesurau pellhau cymdeithasol o hyd ac yn genedlaethol mae'n ofynnol i bob ymgynghoriad ddigwydd o bell oni bai bod angen clinigol i hyn ddigwydd wyneb yn wyneb. Mae hyn yn golygu na allwn gael cymaint o bobl yn y clinigau ag arfer ac o ganlyniad mae angen i ni flaenoriaethu pa bobl ifanc rydym yn eu gweld wyneb yn wyneb. Gall hyn achosi oedi na ellir ei osgoi a mwy o amseroedd aros. Gofynnwn i unrhyw un sy'n cysylltu â'n gwasanaethau fod yn ystyriol o'n staff sydd angen gwneud penderfyniadau anodd ar yr adeg hon ac sy'n gweithio'n galed i weld cymaint o blant a phobl ifanc â phosibl.
Er mwyn sicrhau ein bod yn cadw at ganllawiau'r llywodraeth rydych yn debygol o weld rhai newidiadau pan ddewch i'n gweld nesaf. Dyma rai negeseuon allweddol:
Os byddwn ni wedi cytuno, bydd angen i chi gael eich gweld yn bersonol. Dyma rai enghreifftiau o'r pethau a allai fod yn wahanol:
Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.