Neidio i'r prif gynnwy

Cymorth iechyd meddwl yn ystod COVID

Yn ddealladwy, mae'r cyfnod clo, ffyrlo, gwarchod, cau ysgolion, hunan ynysu a'r nifer o newidiadau eraill i'n bywydau yn ystod COVID wedi cael effaith ar iechyd meddwl a lles pob un ohonom.

O ganlyniad, bydd angen cefnogaeth ar rai ohonom gan wasanaethau iechyd meddwl y GIG am y tro cyntaf a bydd angen help ychwanegol ar eraill.

Mae'r gwasanaethau hyn wedi parhau i fod ar gael trwy gydol pandemig COVID-19, gyda mesurau ar waith i leihau trosglwyddiad y feirws a'ch cadw chi, eich anwyliaid a'n staff yn ddiogel.

Rydym wedi dylunio'r tudalennau hyn fel canllaw i'ch helpu i gael gafael ar gymorth ar eich cyfer chi neu ar gyfer rhywun annwyl os oes angen, ynghyd â rhywfaint o gyngor hunangymorth a chyfeiriadau at wasanaethau ac elusennau eraill.

Oedolion

Plant a phobl ifanc

 

Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.