Neidio i'r prif gynnwy

Beth alla i ei wneud i ofalu am fy iechyd meddwl a lles yn ystod y pandemig COVID-19?

Gellir dod o hyd i lawer o ffynonellau cymorth a chyngor ar sut i ymdopi yn ystod yr amser heriol hwn ar-lein.

Os ydych chi'n ymdopi â hwyliau isel, pryder, straen neu anhunedd mae'n werth rhoi cynnig ar rai o'r adnoddau hunangymorth a'r cyrsiau ar-lein a argymhellir isod.

Ewch i'r dudalen hon i gael mynediad at gyrsiau ar-lein am ddim a all helpu i wella eich iechyd meddwl a'ch lles.

Ewch i'r dudalen hon i gael mynediad at apiau i hybu iechyd meddwl ac emosiynol, i gael cyngor a gwybodaeth am atal hunan-niweidio, offer ar gyfer ymdopi â PTSD, atal hunanladdiad a mwy.

Ewch i'r dudalen hon i gael gwybodaeth am lyfrau a thaflenni er mwyn gwella iechyd meddwl a lles.

Bydd angen cefnogaeth arbenigol ar bobl ag anableddau dysgu a'r rhai sy'n gofalu amdanynt:

Ewch i'r dudalen hon i gael apiau sy'n addas ar gyfer pobl ag anableddau dysgu a materion iechyd meddwl, canllaw hawdd ei ddarllen ar edrych ar ôl eich hun a manylion sefydliadau ac elusennau sy'n cynnig cefnogaeth.

Os ydych chi'n parhau i gael trafferth gyda'ch iechyd meddwl ar ôl rhoi cynnig ar rai o'r adnoddau gan gynnwys Silver Cloud, siaradwch â'ch meddyg teulu.

Yna gall eich meddyg teulu eich atgyfeirio at ein Gwasanaethau Cymorth Iechyd Meddwl Sylfaenol Lleol (LPMHSS) neu at y gwasanaeth arbenigol mwyaf priodol i chi.

Os cewch eich atgyfeirio, bydd asesydd nyrsio yn trefnu ymgynghoriad ar-lein i gynnal asesiad iechyd meddwl a phan fo hynny'n briodol, yn gweithio gyda chi i greu cynllun gofal wedi'i bersonoli.

Darperir hyn yn aml trwy therapi grŵp oherwydd gwyddys bod hyn yn ffordd bwerus ac effeithiol o ddarparu'r driniaeth hon.

Efallai y bydd aseswyr nyrsio hefyd yn eich cynghori i ymuno â grwpiau a gweithgareddau cymunedol ac ystyried eich opsiynau cyflogaeth.

Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.