Neidio i'r prif gynnwy

Cwestiynau cyffredin i oedolion sydd eisoes yn derbyn cefnogaeth gan wasanaethau iechyd meddwl

Cysylltwch

Gwasanaethau cleifion mewnol

Mynediad at ymyriadau therapiwtig

Teuluoedd a gofalwyr

Ydy, mae'r gefnogaeth rydych chi'n ei darparu mor bwysig i les ac adferiad yr unigolyn hwnnw. Mae hyn yn arbennig o bwysig yn ystod y pandemig COVID.

Gallwch - mae dal yn bosibl cysylltu â thimau gofal iechyd yn uniongyrchol ac mae'n bwysig eich bod chi'n gwneud hynny os oes gennych chi unrhyw bryderon. Fodd bynnag, ni all gweithwyr gofal iechyd proffesiynol rannu gwybodaeth gyfrinachol am eich perthynas â chi fel rheol, oni bai bod eich perthynas yn cytuno.

Ewch i wefan Rethink Mental Illness i ddarganfod mwy am gyfrinachedd a rhannu gwybodaeth ar gyfer gofalwyr, ffrindiau a theulu.

Sylwir os gwelwch yn dda bod rhai dolenni allanol ddim ar gael yn y Gymraeg.

Gallwch chi a'ch perthynas gymryd camau fel y gall gweithwyr proffesiynol rannu gwybodaeth â chi. Gweler yr adran o'r enw 'Pa drefniadau y gallaf eu gwneud ar gyfer y dyfodol?' yn y ddolen uchod.

Fe welwch y gall eich perthynas lofnodi ffurflen ganiatâu i'ch galluogi i gael gwybodaeth gan weithwyr proffesiynol.

Mae ein gwasanaethau iechyd meddwl hefyd yn ymdrechu i'ch cefnogi chi yn eich rôl partner gofal trwy ddulliau rhithwir a thros y ffôn.

Byddwch, os cytunir ar hyn gan ein claf.

Fel y soniwyd eisoes, mae adolygiadau'n cael eu cynnal dros y ffôn ac ar blatfformau digidol fel Attend Anywhere a Microsoft Teams.

Dylai eich cynlluniau gofal a thriniaeth fanylu ar y trefniadau cyswllt y cytunwyd arnynt gyda'ch cydlynydd gofal. Mae hyn yn cynnwys dull dwy ffordd lle rydych chi'n gwybod sut a phryd i gysylltu â nhw, ac rydych chi'n cytuno pa mor aml y dylen nhw gysylltu â chi.

Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.