Neidio i'r prif gynnwy

3. Beth sydd yn y brechlyn chwistrell trwynol? A yw'n cynnwys gelatin?

Ydy, mae'n cynnwys olion gelatin mochyn pur iawn, a ddefnyddir hefyd mewn ystod o feddyginiaethau hanfodol.

Y brechlyn chwistrell trwynol yw'r brechlyn ffliw gorau i blant a phobl ifanc, ond mae pigiadau ffliw yn rhydd o gelatin felly os byddai'n well gennych i'ch plentyn gael hwn fel dewis arall, cysylltwch â'u meddygfa fel nad yw'n colli allan.

Ewch i'r wefan hon i gael rhestr lawn o gynhwysion y brechlyn. Bydd angen i chi roi 'Fluenz Tetra' yn y blwch chwilio.

Yn anffodus mae hwn yn ddolen allanol, ac nid yw ar gael yn Gymraeg.

Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.