Neidio i'r prif gynnwy

Beth yw'r ffordd orau i deithio i apwyntiad fy mhlentyn?

Os gallwch chi gerdded i'ch meddygfa ar gyfer eich apwyntiad dyna'r opsiwn gorau a bydd yn rhoi rhywfaint o awyr iach ac ymarfer corff i chi.

Gallwch deithio yn eich car eich hun.

Defnyddiwch drafnidiaeth gyhoeddus dim ond os oes rhaid. Wrth deithio ar drafnidiaeth gyhoeddus:

  • Osgowch adegau prysur os gallwch chi.
  • Defnyddiwch hances bapur wrth beswch neu disian, yna taflwch yr hances i'r bin.
  • Arhoswch 2 fetr (6 troedfedd) i ffwrdd oddi wrth bobl eraill.
  • Golchwch eich dwylo yn aml gyda sebon a dŵr am o leiaf 20 eiliad. Mae hyn yn arbennig o bwysig cyn gadael y tŷ, a phan fyddwch chi'n cyrraedd eich apwyntiad ac wedi cyrraedd adref.
  • Os nad oes sebon a dŵr ar gael, defnyddiwch hylif diheintio dwylo ag alcohol.

Gan weithredu ar gyngor gan Sefydliad Iechyd y Byd a'i gynghorwyr ei hun, mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi argymell defnyddio gorchuddion wyneb tair haen ar drafnidiaeth gyhoeddus.

 

 

Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.