Mae'n naturiol i deimlo'n ofnus am ddod â'ch plentyn i'r feddygfa yn ystod yr amser hwn. Gallwn eich sicrhau bod eich meddygfa yn dilyn y canllawiau diweddaraf ac y bydd yn cymryd pob rhagofal posibl i atal COVID-19 rhag lledaenu i'ch cadw chi, eich plentyn a'r staff yn ddiogel yn ystod apwyntiad eich plentyn.
Bydd hyn yn cynnwys glanhau'r feddygfa yn rheolaidd, defnyddio offer amddiffyn personol, a threfniadau i gadw pellter diogel oddi wrth eraill.
Os ydych chi'n ansicr am beth sydd orau i'w wneud, neu'n teimlo bod angen gwybodaeth bellach arnoch chi i'ch helpu chi i benderfynu, siaradwch â'ch Ymwelydd Iechyd.
Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.