Peidiwch â mynychu eich apwyntiad os oes gennych chi, eich plentyn neu rywun rydych chi'n byw gyda nhw symptomau o'r coronafeirws (tymheredd uchel a / neu beswch parhaus newydd) a'ch bod chi'n hunanynysu. Mae hyn yn golygu aros y tu fewn ac osgoi dod i gysylltiad â phobl eraill gan gynnwys y rhai yn eich tŷ eich hun.
Gadewch i'ch meddygfa wybod na all eich plentyn ddod i'w apwyntiad. Aildrefnwch apwyntiad cyn gynted â phosibl ar ôl gorffen hunanynysu.
Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.