Ers ein cylchlythyr diwethaf, rydym wedi cymryd sawl cam ymlaen wrth ddarparu brechiadau Covid-19 i rai dan 18 oed.
Yr wythnos hon rydym yn dechrau brechu pobl ifanc 12 i 15 oed sy'n cael eu hystyried yn glinigol hynod fregus - mae mwy o wybodaeth am hyn isod.
Yn ogystal ag apwyntiadau wedi'u harchebu ar gyfer pobl ifanc 16 a 17 oed, rydym wedi agor ein sesiynau galw heibio Canolfan Brechu Torfol i'r grŵp oedran hwn.
Ac, oherwydd cyflenwad cynyddol, mae ein sesiynau galw heibio Canolfan Brechu Torfol bellach ar agor i bob oedolyn dros 16 oed sydd angen dos cyntaf neu ail. Rydym wedi cynnwys y manylion llawn yn y cylchlythyr hwn.
Y ffigurau diweddaraf
Sylwch: Mae'r ffigurau'n gywir ar 7.50pm Ddydd Mawrth, Awst 17eg. Mae'r ffigurau hyn ar gyfer ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe, nid Cymru gyfan.
Dos 1 af : 281,668
2ail ddos: 256,795
Dosau a roddir mewn meddygfeydd (dosau cyntaf ac ail): 123,531
Cyfanswm hyd yn hyn (1 af ac 2ail ddos): 538,463
Y newyddion diweddaraf
Brechiadau Covid-19 ar gyfer pobl ifanc 12-15 oed sy'n hynod fregus yn glinigol
Yr wythnos hon rydym wedi dechrau cynnig apwyntiadau brechu Covid-19 i bobl ifanc 12-15 oed sy'n cael eu hystyried yn glinigol hynod fregus.
Rydym yn cysylltu â rhieni, gwarcheidwaid a gofalwyr yn uniongyrchol i archebu pawb i mewn.
Er mwyn sicrhau bod pawb yn y grŵp hwn sy'n dod i Ganolfan Brechu Torfol yn teimlo'n ddiogel ac yn gyffyrddus yn ystod eu hymweliad, mae'r apwyntiadau hyn yn cael eu bwcio fel rhan o sesiynau arbennig gyda niferoedd cyfyngedig o bobl yn mynychu ar yr un pryd.
Sesiynau galw i mewn dos cyntaf bellach ar agor i bob 16+
Mae ein sesiynau galw heibio dos cyntaf bellach ar agor i bawb dros 16 oed yn Abertawe a Castell-nedd Port Talbot.
Yn flaenorol, roedd y sesiynau hyn wedi'u cyfyngu i'r rhai rhwng 18 a 39 oed a ddylai gael brechlyn Pfizer. Ond oherwydd cynnydd yn y cyflenwad, mae'r bwrdd iechyd bellach yn gallu cynnig dos cyntaf o'r brechlyn Pfizer i bawb sy'n ymweld â sesiwn galw heibio Canolfan Brechu Torfol, cyhyd â'u bod dros 16 oed.
Bydd sesiynau galw heibio dos cyntaf yn cael eu cynnal yn Ysbyty Maes y Bae a'r Orendy, Canolfannau Brechu Torfol Parc Margam ar y dyddiadau a'r amseroedd canlynol yr wythnos hon:
Ysbyty Maes y Bae -
Yr Orendy, Parc Margam -
Ddim yn siŵr a ydych chi'n gymwys i ddod i sesiwn galw heibio? Darllenwch hwn:
Nid oes angen apwyntiadau i fynychu unrhyw un o sesiynau galw heibio BIPBae Abertawe, gall pobl droi i fyny ar un o'r dyddiadau a hysbysebir.
Nid oes angen mynd i'r Ganolfan Brechu Torfol sydd agosaf at adref chwaith - gall pobl fynd i'r un sydd fwyaf cyfleus iddyn nhw. Petai nhw ar y ffordd adref o'r gwaith, wrth grwydro, neu cyn dal i fyny gyda ffrindiau a theulu.
Ewch i'r dudalen hon ar ein gwefan i gael yr holl sesiynau brechu galw heibio dos cyntaf o'r wythnos hon ymlaen. Ychwanegir dyddiadau newydd at y calendr hwn wrth iddynt gael eu cadarnhau.
Sesiynau galw heibio ail ddos ar gael nawr
Yn ogystal â'n sesiynau galw heibio dos cyntaf, rydym hefyd yn cynnal sesiynau agored i unrhyw un sydd angen ail ddos o'r brechlyn Pfizer.
Mae'r sesiynau hyn hefyd yn cael eu cynnal yn ein Canolfannau Brechu Torfol.
Sylwch, os ydych chi'n bwriadu dod draw, mae'n rhaid bod o leiaf wyth wythnos wedi mynd heibio ers i chi gael eich dos cyntaf. Ni fyddwn yn gallu eich brechu os yw wedi bod yn llai nag wyth wythnos ers i chi gael eich dos cyntaf.
Bydd sesiynau galw heibio ail ddos yn cael eu cynnal yn Ysbyty Maes y Bae a'r Orendy, Canolfannau Brechu Torfol Parc Margam ar y dyddiadau a'r amseroedd canlynol yr wythnos hon:
Ysbyty Maes y Bae -
Yr Orendy, Parc Margam -
Ewch i'r dudalen hon ar ein gwefan i gael yr holl sesiynau brechu galw heibio ail ddos o'r wythnos hon ymlaen. Ychwanegir dyddiadau newydd at y calendr hwn wrth iddynt gael eu cadarnhau.
Dyna i gyd am yr wythnos hon. Diolch yn fawr am ddarllen.
Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.