Y nod yw bod pawb yn y grŵp hwn wedi cael cynnig eu dos cyntaf erbyn Gorffennaf 31ain, 2021.
DIWEDDARIAD 08/04/2021: Ar hyn o bryd rydym yn pythefnos cyn ein hamserlen frechu COVID-19 wreiddiol ym Mae Abertawe, sy'n golygu ein bod wedi gallu dechrau cynnig brechlyn i bobl 40-49 oed.
Yn yr un modd ag apwyntiadau blaenorol, rydym yn cysylltu â phobl yn uniongyrchol i drefnu amser a dyddiad i fynd i un o'n canolfannau brechu torfol.
Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.