Neidio i'r prif gynnwy

Fferyllfeydd

Mae rhai o'r gwaith a wneir yn draddodiadol gan feddygon teulu yn cael ei wneud yn awr gan fferyllwyr yn lle hynny. Mae hyn yn cynnwys rhoi meddyginiaeth 'presgripsiwn yn unig' ar gyfer nifer o fân anhwylderau heb fod angen gweld meddyg. Ac, fel meddyginiaethau eraill yng Nghymru, mae'r rhain hefyd yn rhad ac am ddim.

Mae'n rhaid i chi gofrestru gyda'r fferyllfa i ddefnyddio'r cynllun, ond dim ond ychydig funudau y mae'r broses yn eu cymryd.

Cynhelir ymgynghoriadau mewn ystafell breifat ac os bydd y fferyllydd yn penderfynu bod angen i chi weld meddyg o hyd, bydd yn eich cyfeirio.

Dyma'r anhwylderau cyffredin a gwmpesir gan y cynllun:

  • Acne
  • Brech cewynnau
  • Brech yr ieir
  • Camdreuliad 
  • Casewin
  • Clefyd y gwair 
  • Colig
  • Dermatitis
  • Dolur gwddf a thonsilitis
  • Dolur rhydd
  • Doluriau annwyd
  • Ferwcau
  • Llau pen
  • Llid yr amrannau
  • Llindag y geg 
  • Llindag y wain
  • Llygad sych
  • Llyngyr edau
  • Peils (Clwy'r marchogion)
  • Poen Cefn
  • Rhwymedd
  • Sgabies 
  • Tarwden y Traed
  • Torri dannedd
  • Wlserau'r geg
  • Y darwden

Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.