Neidio i'r prif gynnwy

Problemau llais

Problemau llais

Gall fod yn anoddach siarad os ydych chi'n fyr eich anadl. Efallai y bydd eich llais yn swnio'n wan, yn dawel, yn gras neu'n gryg. Efallai bod gennych ddolur gwddf os ydych wedi bod yn pesychu llawer. Rydych chi'n fwy tebygol o gael y problemau hyn os oedd angen tiwb anadlu arnoch yn yr ysbyty.

Mae anadlu yn bwysig iawn i'n galluogi i siarad mewn llais clir y gall eraill ei glywed a'i ddeall yn hawdd. Efallai y byddwch chi'n teimlo bod eich llais yn wan ac nad yw mor glir ag yr arferai fod. Dylai hyn wella wrth i'ch symptomau gael eu datrys.

Os bydd eich problemau llais yn parhau am sawl wythnos, cysylltwch â'ch meddyg teulu a allai drefnu i chi gael eich asesu gan feddyg clust, trwyn a gwddf a therapydd lleferydd ac iaith os na fydd eich problemau'n gwella.

 

Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.