Neidio i'r prif gynnwy

Gweledigaeth Gambia - Abertawe 2020

Delwedd o berson ifanc yn cael ei ddal gan ei fam wrth i Orthoptydd yn Gambia brofi ei lygaid

Ers mis Chwefror 2008 mae Adran Offthalmoleg Abertawe wedi bod yn gysylltiedig â Chanolfan Gofal Llygaid Ranbarthol Sheikh Zayed. Y sefydliad hwn yw'r sefydliad mwyaf blaenllaw ar gyfer clefydau'r llygaid, nid yn unig yn Y Gambia ond ar gyfer saith o wledydd tlotaf y byd yng Ngorllewin Affrica fel rhan o'r fenter Gofal Iechyd er Heddwch.

Mae aelodau o adran orthopteg Singleton wedi ymweld â'r Gambia ar sawl achlysur, fel rhan o dimau amlddisgyblaethol sy'n darparu addysg, cyngor a chefnogaeth ar gyfer gwaith clinigol. Mae orthoptwyr wedi hyfforddi nyrsys llygaid ac optometryddion i brofi golwg plant, asesu symudiadau'r llygaid a chanfod tro yn y llygaid. Mae adran orthopteg Singleton hefyd wedi croesawu gweithwyr iechyd llygaid proffesiynol o'r Gambia ar eu hymweliadau ag Abertawe. Roedd yr ymweliad diwethaf â'r Gambia ym mis Tachwedd 2019.

Delwedd o ddau berson o Gambia yn gwenu ar y camera

Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.