Neidio i'r prif gynnwy

Pryd ydw i'n dechrau adsefydlu cardiaidd?

Ar ôl derbyn atgyfeiriad adsefydlu cardiaidd gan yr ysbyty y cawsoch eich rhyddhau ohoni, byddwn yn eich anfon taflen wybodaeth am eich gwasanaeth a llythyr yn eich gwahodd chi i gysylltu â ni i drefnu apwyntiad gydag un o'n Nyrsys Adsefydlu Cardiaidd. Bydd yr apwyntiad yn eich darparu chi gyda gwybodaeth am eich cyflwr, y driniaeth rydych wedi derbyn a'r cyfle i chi drafod yr amrywiaeth o opsiynau adsefydlu cardiaidd sydd ar gael i gefnogi chi yn eich adsefydlu. Gall yr apwyntiad fod yn wyneb i wyneb, dros y ffôn neu'n rhithiwr.

Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.