Neidio i'r prif gynnwy

Beth yw adsefydlu cardiaidd yn ei gyfaddawdu?

Addysg

Y nod yw eich helpu chi deall eich cyflwr a'ch helpu chi i wneud penderfyniadau ffordd o fyw iach, a all helpu lleihau eich risg o broblemau calon bellach.

Mae'r gydran addysg yn cynnwys gwybodaeth ynglyn â'r canlynol:

  • Y mathau gwahanol o gyflyrau'r galon megis clefyd coronaidd y galon, angina, trawiad ar y galon a chlefyd falf y galon.
  • Triniaethau ar gyfer cyflyrau'r galon, gan gynnwys llawdriniaeth y galon, triniaethau cardiaidd megis angioplasti a stentiau a meddyginiaeth gardiaidd.
  • Ffactorau risg clefyd coronaidd y galon a beth allech chi wneud i leihau eich ffactorau risg personol.
  • Newidiadau ffordd o fyw iach fel bwyta'n iach, stopio ysmygu a gweithgareddau corfforol.
  • Rheoli straen ac edrych ar ôl ein llesiant emosiynol.

Gellir derbyn yr addysg naill ai wyneb yn wyneb mewn grŵp a/neu gyrchu ein trafodaethau addysg ar lein yng nghysur eich cartref neu drwy lenyddiaeth ysgrifenedig. Rydym hefyd yn cynnig rhaglen adsefydlu gardiaidd, os yw'n briodol. 

 

Ymarfer Corff

Gall ymarfer corff rheolaidd neu weithgaredd corfforol strwythuredig helpu gyda'ch adsefydlu, hyder yn ogystal â'ch ffitrwydd a'ch llesiant cyffredinol.

Mae ymarfer corff yn driniaeth ddiogel ac effeithiol ar gyfer eich calon ac wrth ei berfformio'n rheolaidd yn lleihau eich siawns o broblemau cardiaidd pellach.

Cyn cael cyngor ar ymarfer corff, bydd Ffisiotherapydd neu arbenigwr ymarfer corff fel arfer yn eich asesu felly bydd yr ymarferion o fewn eich galluoedd.

Os ydych yn gymwys, wedyn bydd cynllun ymarfer corff yn cael ei darparu i chi mewn ychydig ddiwrnodau:

  • Cynllun ymarfer corff gartref trwy YouTube.
  • Adsefydlu Cardiaidd yn y gartref mewn llyfryn neu fersiwn digidol.
  • Dosbarthiadau ymarfer corff sy'n seiliedig ar gampfa (mewn gosodiad grŵp).

 

Cymorth llesiant emosiynol

Cymorth i ddychwelyd i alwedigaethau ystyrlon

Gall y Therapyddion Galwedigaethol o fewn yr adsefydlu cardiaidd eich cefnogi chi i fynd yn ôl i'ch arferion a gweithgareddau arferol, gweithio wrth ochr â chi i gyflawni eich nodau a'ch cefnogi chi i ddysgu ffyrdd newydd i reoli eich cyflyrau. 

  • Gwneud pethau yn raddol a chynllunio strategaethau i reoli blinder.
  • Cefnogi eich cynllun i ddychwelyd i waith gan gynnwys awgrymiadau ysgrifenedig i'ch cyflogwr.
  • Strategaethau ymdopi i leihau straen a gorbryder ac i gael chi yn ôl i arferion arferol.
  • Edrych am weithgareddau a hobïau newydd i gael chi yn cwrdd â phobl newydd a helpu gyda thymer isel.

Mae Therapyddion Galwedigaethol yn cynnig apwyntiadau unigol a hefyd grwpiau a fydd yn eich darparu chi gyda'r cyfle i gwrdd â phobl eraill sydd wedi bod trwy'r un pethau â chi, yr hyn y mae rhai pobl yn ei chael yn ddefnyddiol iawn.

 

Gwasanaeth seicoleg adsefydlu gardiaidd

Bydd y Seicolegydd o fewn yr adsefydlu cardiaidd yn gweithio gydag unigolion ar amrywiaeth o anawsterau seicolegol a all ddigwydd ar ôl profi digwyddiad cardiaidd gan gynnwys; iselder, gorbryder, goresgyn y trawma a/neu'r sioc o ddiagnosis, colli hyder ac anhawster wrth addasu. 

Gall y Seicolegydd cynnal asesiad seicolegol i gefnogi'r unigolyn a/neu'r tîm adsefydlu cardiaidd i ddatblygu dealltwriaeth o unrhyw ffactorau seicolegol neu gymdeithasol ag efallai angen cael eu cyfeirio atynt fel rhan o'u hadsefydlu cardiaidd.  Therapi unigol seicolegol, therapi grŵp a/neu gellir darparu ymyrriaeth seicioaddysgol.

Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.