Neidio i'r prif gynnwy

Rôl yr archwiliwr meddygol

Delwedd o flodau porffor a glöyn byw porffor.

Yn unol â gofynion newydd y llywodraeth, mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe yn gweithio'n agos gyda'r Gwasanaeth Archwilwyr Meddygol. Mae'r archwiliwr meddygol yn uwch feddyg nad yw'n ymwneud â gofal y claf, sy'n darparu archwiliad annibynnol o bob marwolaeth. Mae'r gwasanaeth hwn yn caniatáu i achos marwolaeth gael ei nodi'n fwy cywir, ac i amgylchiadau'r farwolaeth gael eu hasesu'n fwy gwrthrychol.

Mae gan yr archwiliwr meddygol dîm o swyddogion archwilio meddygol, a fydd yn cysylltu â chi yn y dyddiau ar ôl marwolaeth eich perthynas/ffrind. Byddant yn trafod achos y farwolaeth gyda chi, ac yn gwrando ar eich barn ar y gofal a ddarperir. Gallant ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych am achos y farwolaeth ac amgylchiadau'r farwolaeth.

Unwaith y bydd y drafodaeth hon wedi'i chynnal, bydd yr archwiliwr meddygol yn cysylltu â'r meddyg a'r Tîm Gofal ar ôl Marwolaeth i roi'r Dystysgrif Achos Meddygol Marwolaeth i'r cofrestrydd, a byddwch yn gallu cofrestru marwolaeth eich perthynas/ffrind.

Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.