Neidio i'r prif gynnwy

Post mortem ysbyty

Delwedd o flodau porffor a glöyn byw porffor.

Nid yw post mortem ysbyty yr un peth â phost mortem crwner. Cynhelir post mortem â chaniatâd ysbyty at ddibenion ymchwil ac addysgol, a allai helpu i drin cleifion eraill neu aelodau o'r teulu yn y dyfodol, neu roi gwybodaeth fanylach am achos marwolaeth. Gall y meddyg sy'n trin eich perthynas/ffrind ofyn am bost mortem ysbyty, ond bydd yn rhaid i chi roi caniatâd i hyn ddigwydd.

Bydd y meddyg sydd wedi gofyn am y post mortem yn trafod y rhesymau dros y cais gyda chi, a chewch gyfle i ofyn unrhyw gwestiynau sydd gennych. Byddant yn rhoi gwybod i chi am y broses ac wedi hynny byddwch yn gallu trafod canlyniadau’r post mortem gyda nhw.

Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.