Neidio i'r prif gynnwy

Ymateb bwrdd iechyd Bae Abertawe i adroddiadau yn y cyfryngau ar gael mynediad at ofal deintyddol y GIG

Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe

Ymateb gan Karl Bishop, Cyfarwyddwr Deintyddol, Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe.

“Rydym yn cydnabod y gofid a’r trallod y gall poen deintyddol ei achosi ac yn cydnabod nad yw rhai pobl wedi gallu cael mynediad at wasanaethau deintyddol arferol fel y byddem wedi dymuno yn ystod pandemig Covid.

“Mae’r bwrdd iechyd wedi buddsoddi’n sylweddol i wella mynediad i ofal deintyddol y GIG yn barhaus, yn enwedig i’r rhai sydd â’r angen mwyaf a’r rhai mwyaf agored i niwed. Mae hyn wedi galluogi miloedd yn fwy o bobl i weld deintydd.

“Fodd bynnag, roedd canllawiau Covid y Llywodraeth yn cyfyngu’n sylweddol ar nifer y cleifion y gallai practisau deintyddol ledled Cymru a’r DU eu gweld a’r gofal y gellid ei ddarparu, er yn BIPBA arhosodd pob practis deintyddol ar agor ac yn gweithio i gefnogi eu cymunedau. Yn ogystal, mae mynediad at ofal brys y GIG nid yn unig wedi'i gynnal ond wedi'i ehangu.

“Wrth i gyfyngiadau Covid gael eu llacio ac i ni adnewyddu ein ffocws ar atal a chynyddu mynediad at ddeintyddion, rydym yn hyderus y bydd y cyhoedd yn dechrau gweld gwelliannau.

“Yn allweddol i hyn bydd rhaglen diwygio contract, y mae 88% o bractisau deintyddol yn yr ardal hon wedi dewis ymuno â hi. Daw hyn i rym ar unwaith.

“Mae cofrestru yn golygu y byddan nhw’n gwneud nifer o newidiadau cadarnhaol gan gynnwys gallu cynnig gofal i bron i 30,000 o gleifion GIG newydd ychwanegol eleni.

“Yn ogystal, bydd practisau’n gallu canolbwyntio ar atal problemau deintyddol, rhywbeth sydd wedi’i gynllunio i leddfu pwysau yn y dyfodol ac rydym yn parhau â’r cynnydd rhagorol sydd eisoes wedi’i wneud gan ein rhaglen iechyd y geg plant o’r enw Cynllun Gwên (D2S). ”

Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.