Neidio i'r prif gynnwy

Tŷ haf newydd ar fin gwella'r uned anableddau dysgu

(Uchod: Aelod o staff Matthew Knight y tu allan i’r tŷ haf newydd)

Mae uned asesu Bae Abertawe, ar gyfer pobl ag anableddau dysgu, wedi gwella ei chyfleusterau diolch i dŷ haf newydd.

Mae'r ychwanegiad, sydd wedi'i adeiladu ar dir Uned Anableddau Dysgu Llwyneryr yn Nhreforys, yn rhoi cyfle i gleifion gael amser i ffwrdd o'r prif hwb er mwyn ganolbwyntio ar ymlacio a chwrdd â theuluoedd.

Mae'r prosiect wedi'i ariannu gan Elusen Iechyd Bae Abertawe y bwrdd iechyd.

Dywedodd Sian Dolling, Rheolwr Cyfarwyddiaeth Anableddau Dysgu Abertawe, y byddai'r gofod newydd yn gwneud gwahaniaeth enfawr i'r uned derbyniadau acíwt sy'n darparu gwasanaethau asesu cleifion ac ymyrryd tymor byr i oedolion ag anableddau dysgu.

Dywedodd Sian, a oedd am ddiolch i’r tîm cronfeydd elusennol am ei gefnogaeth: “Mae gan y gwasanaeth wyth ystafell wely gydag un lolfa, a sawl ystafell lai, ond nid oes unrhyw ardaloedd eraill ar y ward y gall y cleifion fynd iddynt.

“Mae cael tŷ haf, y gallant ei ddefnyddio drwy gydol y flwyddyn, yn mynd i wneud gwahaniaeth enfawr.

“Gall roi amser a lle i gleifion oddi wrth eraill yn yr uned. Oherwydd ei bod yn uned asesu a derbyn, efallai na fydd y cleifion bob amser yn dod ymlaen a'i gilydd felly mae mynd allan o'r lolfa, weithiau yn eithaf pwysig.

“Yn y bôn mae'n ystafell eistedd lle gallant wneud gweithgareddau, fel lluniadu a lliwio, a hefyd rhywle lle gallant gael ymweliadau teuluol. Mae’n amgylchedd llawer brafiach yn ystod y dydd a chyda’r nos iddyn nhw eu hunain ac ymweliadau teuluol.”

Cafodd y gwaith adeiladu ei wneud gan gwmni lleol BAPTT Ltd yn ystod y mis diwethaf.

Dywedodd Sian: “Roedd BAPTT yn wych o ran gweithio o dan gyfyngiadau Covid – roedden nhw’n gallu parhau i weithio oherwydd ei fod y tu allan. Cwblhawyd y gwaith yn gyflym iawn ac mae'r gweithwyr wedi bod yn wych.

“Mae gennym ni ardd eithaf mawr ac roedd yr ardal y mae wedi cael ei hadeiladu arni yn eithaf corsiog a heb ei defnyddio llawer o’r blaen mewn gwirionedd.”

Dywedodd Rebecca Thomas, rheolwr yr uned: “Mae’r staff, gan gynnwys Mathew Knight a Lucian Scutea, a oedd yn berthnasol wrth roi’r prosiect drwyddo, i gyd yn cytuno faint o wahaniaeth y bydd cael hwn fel gofod ar wahân yn ei wneud.”

Dywedodd Deborah Longman, Pennaeth Codi Arian: “Mae'r ychydig flynyddoedd diwethaf wedi dysgu i ni bwysigrwydd canolbwyntio ar les.

“Mae defnyddio’r rhoddion hael rydym wedi’u derbyn gan y cyhoedd yn ein galluogi i ganolbwyntio ar ddatblygiadau arloesol sy’n gwella’r gofal y gallwn ei ddarparu i’n cleifion.

“Mae’r tŷ haf hwn yn ychwanegiad gwych at wasanaeth Anableddau Dysgu Llwyneryr, a bydd yn caniatáu i gleifion dreulio amser i ffwrdd o amgylchedd ward, sydd â manteision lles profedig.”

 

 

logo elusen bae swansea

Elusen Iechyd Bae Abertawe

Oes gennych chi ddiddordeb mewn codi arian i gefnogi gwasanaethau'r GIG yn Abertawe a Castell-nedd Port Talbot? Oeddech chi'n gwybod bod gan Fwrdd Iechyd Prifysgol bae Abertawe ei elusen codi arian ei hun?

Mae Elusen Iechyd Bae Abertawe yn cefnogi cleifion, staff a gwasanaethau o fewn Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe. Ewch i'w wefan yma i ddarganfod mwy.

Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.